26. Dawns Dafydd (2 Samuel 6.1-23)

Cefndir

Wedi i Saul a’i feibion gael eu lladd gan y Philistiaid (1 Samuel 31.1-6), daeth Dafydd yn frenin Jwda (2 Samuel 2.1-4) cyn iddo ddod yn frenin ar Israel gyfan (2 Samuel 5.3). Hebron oedd ei brifddinas yn Jwda, ond wedi ychwanegu Israel at ei deyrnas, symudodd y brifddinas i Jerwsalem, ‘Dinas Dafydd’. Erbyn hynny roedd ganddo sawl ‘gwraig’ a phlant, ynghyd â Michal, merch Saul, oedd yn ddi-blant. Ychwanegodd at nifer ei gariadwragedd (concubines) a’i blant wedi iddo symud ei brifddinas o Hebron i Jerwsalem. Plentyn Bathseba, un o’i gariadwragedd, oedd Solomon.

Wedi sefydlu ei lys yn Jerwsalem roedd Dafydd yn awyddus i ddod ag Arch y Cyfamod a’i rhoi mewn pabell a adeiladodd ar ei chyfer. Pan oedd y babell yn barod, aeth Dafydd â deng mil ar hugain o wir dethol Israel i dŷ Abinadab yn Baalath, lle cadawyd yr Arch, i’w chyrchu i Jerwsalem. Roedd ganddynt gert newydd sbon ar gyfer cludo’r Arch ac ychen i’w dynnu. Ar y ffordd roedd Dafydd a’r bobl yn gorfoleddu a chanu o flaen yr orymdaith i sŵn ‘telynau, liwtiau, tympanau, castanedau a symbalau’.

Mewn un man roedd y ffordd yn anwastad a’r cert yn ysgwyd, a chododd dyn o’r enw Ussa ei law i ddiogelu’r Arch rhag syrthio. Fe’i tarawyd yn farw yn y fan a’r lle. Roedd cyffwrdd â’r Arch yn sarhad i Dduw. Gwylltiodd Dafydd; ond cododd ofn arno hefyd, a gadawyd yr Arch yn nhŷ Obed-edom. Yno bu’r Arch am dri mis yn ei ofal. a bendithiwyd ef a’i deulu yn fawr. Pan glywodd Dafydd hyn, fe aeth yn ôl i gasglu’r Arch o dŷ Obededom a’i dwyn i fewn i Jerwsalem. Wedi offrymu aberth, cludwyd yr Arch i’r lle a drefnodd Dafydd ar ei chyfer. 

‘Yr oedd Dafydd yn gwisgo effod liain a dawnsiai â’i holl egni o flaen yr Arglwydd, wrth iddo ef a holl dŷ Israel hebrwng Arch yr Arglwydd â banllefau a sain utgorn’. 

Yr oedd Michal yn gwylio hyn drwy’r ffenestr, a phan aeth Dafydd adre fe’i ceryddodd yn wawdlyd gan ddweud:

‘O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yn ei ddinoethi ei hun yng ngolwg morynion ei ddilynwyr, fel rhyw hurtyn yn dangos popeth’.

Ymateb Dafydd oedd ei fod am ddangos llawenydd o flaen yr Arglwydd, gan ychwanegu, 
‘Ie, gwnaf fy hun yn fwy dirmygus, ac yn is na hyn yn dy olwg; ond am y morynion hynny y soniaist amdanynt, byddaf yn anrhydeddus ganddynt hwy’.

Fel pe bai yn ganlyniad i’w hagwedd at Dafydd a’i foliant dilywodraeth i’r Arglwydd Dduw, a chosb am ei geiriau dirmygus, mae croniclydd yr hanes yn ychwanegu bod Michal wedi bod yn ddiblant hyd ddydd ei marw.

Myfyrdod

Cofiaf weld cartŵn o ddiacon yn croesawu ymwelwyr i’r capel un tro, ac yn gofyn iddynt, ‘Pa ochr i’r capel garech chi eistedd - yr ochr lle mae pawb yn chwifio’u breichiau a gweiddi, neu’r ochr lle mae pawb yn eistedd yn dawel?’ 

Nid yw’n olygfa ddiarth mewn llawer o gapeli erbyn hyn i weld pobl yn dal eu breichiau ar led a’u chwifio wrth addoli; a gwelais, yma yng Nghymru, bobl yn dawnsio mewn oedfa cyn hyn. Er nad wyf yn ddawnsiwr fy hunan, mentraf awgrymu fod dawnsio yn ddelwedd dda o grefydd ar ei gorau. Ac onid dawns oedd ‘carol’ ar un adeg?

Dywedir bod y rhan fwyaf o bobl yn ymateb mewn rhyw ffordd i gerddoriaeth, ac yn ei fwynhau. Mae rhai yn gallu eistedd am oriau yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol; mae eraill yn ymateb i gerddoriaeth boblogaidd, gyda’r traed yn dilyn rhythm y dôn. Defnyddir cerddoriaeth fel rhan o’r therapi ar gyfer salwch emosiynol - ‘miwsig yw moddion yr enaid!’. Dywedodd Shakespeare fod cerddoriaeth yn siarad pan mae geiriau yn pallu, a chredai Beethoven fod cerddoriaeth yn newid y byd. Ond y mae’n rhaid i berson wrando a bod yn agored i ddylanwadau y miwsig er mwyn iddo gyrraedd ein traed!

Gellir cysylltu dawsnio ag ymddisgyblu. Mae dawnswyr yn symud i’r gerddoriaeth a glywant. Mae cerddoriaeth o fathau gwahanol yn gofyn am symudiadau a allant fod yn wahanol iawn i’w gilydd: dawnsio gwerin, waltz, tango, bale, ac ati. Ac nid yr un fydd dawns pawb i gerddoriaeth ffydd.

A beth am ymaflyd yn ei gilydd wrth ddawnsio? Gwir fod rhai dawnswyr yn gallu bod ymhell oddi wrth ei gilydd wrth ddawnsio yn y dull modern, ond synhwyaf fod ymaflyd yn ran bwysig o ddawnsio. 

Cân a ddaeth yn boblogaidd yn ystod y trigain mlynedd ddiwethaf yw eiddo Sydney Carter, ‘Arglwydd y Ddawns.’ Dywed ef ei hun iddo gyfansoddi’r gân fel teyrnged i’r Siglwyr (y Shakers neu’r Shaking Quakers), sect Americanaidd oedd â’i haelodaeth yn rhifo ond dau yn 2017 er bod eu hoedfaon yn denu llawer mwy. Roedd eu henw yn tarddu o’r ffaith eu bod yn ‘dawnsio’ yn eu haddoliad. Pan yn America, llawer blwyddyn yn ôl bellach, aeth Verina a minnau i un o’u hoedfaon ar fore Sul yn Sabbathday Lake, Talaith Maine - deg aelod oedd ar ôl bryd hynny, a rhyw hanner cant o ymwelwyr. Roedd eu ‘dawns’ yn ddim mwy na siglo’n eu cyrff yn ôl ac ymlaen a shifflo eu traed tra’n canu emyn. Addasiad o dôn un o’u hemynau hwy, ‘Tis a gift to be simple...’, yw tôn ‘Arglwydd y Ddawns’. Gwelai Carter yr Iesu fel Orffëws, y person mewn chwedloniaeth glasurol a fedrai  hudo pob peth byw i ddawnsio. Mae Carter yn rhoi geiriau’r gân ar wefus yr Iesu:

Mi ddawnsiais y bore pell pan grëwyd y byd,
Ac mi ddawnsiais dan leuad a’r haul, a’r sêr i gyd;
A disgynnais o’r nefoedd draw i ddawnsio’n ffri,
Ym Methlehem y ganwyd fi.
Dawnsiwch yn llawen iawn eich llef, fi yw Arglwydd y Ddawns, medd ef;
Deuwch ar fy ôl yn llawen iawn eich llef, canys fi yw Arglwydd y Ddawns medd ef. 

Fel Cristnogion yng Nghymru, efallai mai’r geiriau agosaf sydd gennym am yr hyn a wnâi Dafydd wrth ddawnsio yw ‘gogoneddu’ neu ‘gorfoleddu’; ac mae’r llyfrau emynau wedi eu britho â’r geiriau hynny. Roedd y geiriau hyn yn aml ar dafodau’n Tadau. Tybed pa mor aml y bydd ein gorfoledd ni yn amlwg wrth addoli? ‘Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch’, oedd anogaeth Paul i’r eglwys yn Philipi (Philipiaid 4.4). A yw’n crefydda ni yn byrlymu o lawenydd a gorfoledd?

Gweddi

Gogoniant tragwyddol i’th enw fy Nuw,
mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw ...
llawenydd yw cofio, er cymaint a roed,
fod Golud y nefoedd mor fawr ag erioed. (Dyfed, C.Ff. 107 ) 

Arglwydd, gad i’n calonnau ddawnsio o’n mewn mewn gorfoledd wrth inni dy gofio a’th addoli di. Amen.

Guest User