25. Dafydd (1 Samuel 16-17)

Cefndir

Nid oedd Samuel yn fodlon pan ddywedodd Duw wrtho am eneinio brenin arall i Israel. Ofnai beth ddigwyddai iddo ef, y proffwyd, pe bai Saul yn clywed iddo eneinio rhywun arall fyddai’n cymryd ei le. Ond gorchmynnodd  Duw ei fod i fynd i aberthu ar dir gŵr o’r enw Jesse ym Methlehem, ac mai un o’i feibion yntau gawsai ei eneinio.

Gwnaeth Samuel yr hyn a orchmynnodd Duw iddo. Roedd pob un o feibion Jesse i aberthu yn ei dro, a dywedai Duw wrth Samuel pa un ohonynt oedd i gael ei eneinio’n frenin. Ymddangosodd saith o feibion Jesse o flaen Samuel, ond er i Samuel gredu bod sawl un yn addas, gwrthododd Duw bob un ohonynt. Holodd Samuel os oedd mab arall gan Jesse. Atebodd fod ei fab ifancaf allan yn bugeilio’r praidd. Wedi i’r mab hwnnw gael ei alw adre, datgelodd yr Arglwydd mai ef oedd y dewis un, ac eneiniwyd Dafydd yno, gerbron ei frodyr. ‘A disgynnodd ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd’ (16.13). Dychwelodd Samuel i Rama. Ni soniodd neb am yr hyn a wnaed ym Methlehem. Roedd y digwyddiad fel pe bai heb unrhyw arwyddocâd - fel y ddigwyddodd pan eneiniwyd Saul. 

Daeth y cysylltiad cyntaf rhwng Dafydd â’r brenin pan ddechreuodd Saul brofi cyfnodau  o iselder ysbryd. Awgrymwyd y gallai cerddoriaeth ei helpu, a lleddfu ei deimladau drwg, ac enw Dafydd a awgrymwyd fel telynor da a godai calon y brenin. Fe lwyddodd y driniaeth, a rhoddwyd i Dafydd swydd cludydd arfau y brenin. Ond wedi i Saul wella digon, mae’n ymddangos iddo anghofio’i delynor yn fuan wedyn (cymh. Samuel 17:55-58), ac aeth Dafydd yn ôl i Fethlehem i weithio fel bugail i’w dad.

Roedd tri brawd hynaf Dafydd yn ymladd ym myddin y brenin ac fe âi’r brawd ifancaf â bwyd iddynt ar adegau. Un tro pan aeth atynt clywodd y cawr Philistaidd, Goliath, yn herio unrhyw un ym myddin Israel i ymladd ag ef. Pwy bynnag o’r ddau a enillai’r ornest, byddai’n ennill y frwydr rhwng yr Israeliaid â’r Philistiaid. Deuai’r rhyfel a’r ymladd i ben. 

Nid oedd neb o fyddin Israel yn fodlon derbyn y sialens, ond fe wnaeth Dafydd. Methwyd â chael gwisg arfau i’w ffitio, ac aeth i’r frwydr â dim ond ei ffon fugail, ei ffon dafl a phump carreg fechan o’r nant gerllaw. Gyda’r garreg gyntaf, tarawodd Dafydd y cawr yn ei dalcen a suddodd i’w ben. Syrthiodd Goliath ar ei wyneb i’r llawr, a rhoes hynny gyfle i Dafydd redeg ato, ei ladd, a thorri ei ben â chleddyf y Philistiad ei hun. 

Dihangodd y Philistiaid ar ôl i’w harwr syrthio, a rhuthrodd milwyr Israel a Jwda ar eu hôl a’u lladd. Daeth Dafydd ei hun yn arwr ymhlith pobl Israel, ond roedd y brenin yn genfigennus o’i boblogrwydd. Ni chaniataodd i Dafydd ddychwelyd i Fethlehem, a dwywaith ceisiodd ei ladd pan oedd yn canu’r delyn iddo. Yna dewisodd Dafydd yn gapten ar uned o fil o filwyr, gan obeithio y lleddid ef mewn sgarmes; ond roedd yr arwr ifanc yn ennill ei frwydrau i gyd, a blinai hynny y brenin yn fawr.

Daeth Dafydd yn gyfaill mynwesol i Jonathan, mab Saul, ac, er syndod, yn fab-yng-nghyfraith i’r brenin pan gafodd hawl i briodi Michal, merch ifancaf Saul. Ond cyn i’r briodas ddigwydd, roedd yn rhaid iddo ladd a darnio cyrff cant o Philistiaid fel tâl i’r brenin am ei ferch - gorchest lle byddai Dafydd yn siwr o gael ei ladd, ym marn Saul. Cyflawnodd Dafydd ei dasg gan lurgunio deucant o Philistiaid.

Gan fod ei fab-yng-nghyfraith mor llwyddiannus yn ymladd yn erbyn y Philistiaid, a Michal yn amlwg yn caru ei gŵr, sylweddolodd y brenin fod yr Arglwydd o blaid Dafydd a ‘daeth arno fwy o ofn Dafydd nag o’r blaen, ac aeth yn elyn am oes iddo’ (Samuel 18.24).

Myfyrdod

Un o gymeriadau mawr yr Hen Destament yw Dafydd, ac nid yw’n syndod fod cymaint o wrthdaro rhyngddo â Saul.  Roedd Saul yn ofni Dafydd oherwydd fod ei boblogrwydd ef  yn fwy na phoblogrwydd y brenin ei hunan, ac ystyriai fod hynny yn bygwth ei safle yn y wlad.

Cafodd Saul ei swyno gan boblogrwydd, ond nid peth manteisiol yw hynny bob tro! Os mai poblogrwydd yw ein huchelgais, cofiwn gyngor William Penn, y Piwritan: ‘Avoid popularity, it has many snares, and no real benefit’. Ac eto, am a wn i, ni fynnai neb ohonom fod yn amhoblogaidd. Credai Will Rogers, y ffraethebwr Americanaidd, mai poblogrwydd yw’r peth hawsaf yn y byd i’w ennill, a’r peth mwyaf anodd i’w gadw. Mae pobl amlwg yn gwybod yn dda fel y gall y cyfryngau torfol droi yn eu herbyn, a gwneud eu bywyd yn ddiflas. Mae rhai wedi rhoi diwedd arnyn nhw eu hunain oherwydd y ffordd y mae’r papurynach newydd wedi eu herlid.

‘Popularity is not a guarantee of quality’, meddai Indira Ghandi. Rhybudd yr Arglwydd Iesu i’w ddisgyblion oedd: ‘Gwae chwi pan fydd pob dyn yn eich canmol, oherwydd felly’n union y gwnaeth eich tadau i’r gau-broffwydi’ (Luc 6.26). Golyga hyn na ddylai dilynwyr yr Iesu geisio poblogrwydd drwy gyhoeddi rhywbeth y mae pobl am ei glywed. Os gwnawn hynny mewn perthynas â’n crefydd, mae’n anorfod y byddwn yn  glastwreiddio’r neges. Dyletswydd yr Eglwys yw cyhoeddi dim ond yr hyn sydd wir - ‘y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir,’ fel yr hawlir gan lys barn. Gall y gwir fod yn amhoblogaidd. Nid yw’r hyn sy’n boblogaidd bob amser yn wir; ac nid yw’r hyn sy’n wir bob amser yn boblogaidd! Yr Iesu yw ffynhonnell y gwirionedd i’r Cristion. 

Y cwestiwn i’r Cristion yw: A ydym yn fodlon sefyll dros y gwirionedd pan yw hwnnw’n amhoblogaidd, ac yn ein gwneud ninnau ein hunain hefyd yn amhoblogaidd? 

Gweddi

Arglwydd Dduw, ‘Y gwirionedd a saif’, meddai’th Air di. Cynorthwya ni i sefyll dros y Gwirionedd bob amser, deued a ddelo, costied a gostio. Amen.

Guest User