24. Samuel a Saul (1 Samuel 8-16.13)

Cefndir

Roedd Samuel yn heneiddio, ac am ysgafnhau rhywfaint ar drymlwyth ei waith. I’w helpu, penododd Joel ac Abia, ei feibion, yn  Farnwyr yn ei le, ond twyllwyr diegwyddor oedd y ddau. Canlyniad eu hymddygiad oedd i arweinwyr Israel fynd at Samuel a chwyno nad oedd y meibion yn debyg i’w tad, a dweud wrtho y carent felly gael brenin, a bod fel y cenhedloedd o’u cwmpas. Teimlodd Samuel fod y bobl yn ei wrthod, ond cafodd orchymyn gan yr Arglwydd i ganiatáu eu cais. Meddai’r Arglwydd wrtho mai ef, y gwir Dduw, oedd yn cael ei wrthod, ac nid ei was. Dyna a ddigwyddod droeon yn hanes Israel cyn hynny, meddai. 

Rhoddodd yr Arglwydd gyfarwyddyd i Samuel i rybuddio’r bobl o’r hyn a allent ei ddisgwyl gan frenin: fe alwai ar eu meibion i ymladd drosto a bod yn warchodwyr personol iddo; dewisai y swyddogion i’w rheoli; meddiannai eu tir a’i gynnyrch; gorfodai’r gwŷr ifanc a’r merched i’w wasanaethu; a hawliai drethi gan bawb. Byddent fel caethweision, a deuai’r dydd pan fyddent yn flin iddynt ofyn am frenin; ond byddai’n rhy hwyr iddynt newid eu meddwl bryd hynny. Cyflwynodd Samuel y neges.

Fodd bynnag, roedd y bobl yn benderfynol; roeddent am gael brenin er mwyn bod yn debyg i’r cenhedloedd o’u cwmpas. Rhoddodd Duw y dasg o chwilio am frenin i Samuel. Dewiswyd Saul, dyn ifanc o lwyth Benjamin, pan ddigwyddodd gyfarfod â Samuel wrth iddo chwilio am asennod ei dad oedd wedi mynd ar goll. Eneiniwyd ef ag olew gan Samuel pan nad oedd ond y ddau gyda’i gilydd, a chredodd Samuel iddo gael cadarnhad o’i ddewis drwy gyfres o ddigwyddiadau a gafodd eu darogan ganddo.

Galwodd Samuel y llwythau ynghyd o flaen yr Arglwydd yn Mispa, lle cyhoeddwyd mai Saul oedd yr un i fod yn frenin arnynt. Wedi hynny daeth Saul yn arweinydd milwrol llwyddiannus yn Israel:

‘ymladdodd â’i holl elynion oddi amgylch - Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a’r Philistiaid - a’u darostwng ble bynnag yr âi. Gweithredodd yn ddewr, trawodd yr Ameleciaid, a rhyddhaodd Israel o law eu gormeswyr’ (1 Samuel 14.47-48).

Ond er ei fod yn arweinydd milwrol llwyddiannus a phoblogaidd, nid oedd Saul heb ei feiau amlwg. Rhain a barodd i Samuel ei gondemnio. Dywedodd y proffwyd wrth y brenin:

‘A oes gan yr Arglwydd bleser mewn offrymau ac ebyrth,
fel mewn gwrando ar lais yr Arglwydd?
Gwell gwrando nag aberth, 
ac ufudd-dod na braster hyrddod.
Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod,
a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd.
Am i ti wrthod gair yr Arglwydd,

gwrthododd ef di fel brenin’ (1 Samuel 15.22-23).

Myfyrdod

Ymddygiad Saul oedd wedi peri iddo golli’r frenhiniaeth. Roedd wedi twyllo’r Arglwydd  drwy gadw iddo’i hun yr hyn a hawliai Duw, sef y gorau o anrhaith rhyfel a ddylai fod yn cael ei offrymu i’r Arglwydd. Roedd wedi twyllo hefyd drwy gymryd arno ei fod yn ffyddlon i ofynion Duw, tra’n cynnig yr ail-orau iddo pan offrymai wrth yr allor. Roedd wedi peidio â gwrando ar y proffwyd a ddanfonwyd i’w gyfarwyddo, a cheisio’i dwyllo drwy ddweud celwydd wrtho pan gynigiai iddo eglurhad am yr hyn oedd wedi digwydd. Roedd wedi gwneud sioe o’i grefydd a fforffedu’r fraint o fod yn frenin ar Israel drwy ymddwyn yn annheilwng o’r freninhiniaeth. Roedd wedi anwybyddu’r egwyddor a gafodd fynegiant yng ngeiriau’r proffwyd Micha flynyddoedd ar ôl hynny, pan ddywedodd:

‘ ... ddyn, beth sy’n dda,
a’r hyn a gais yr Arglwydd gennyt,
dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru ffyddlondeb 
a rhodio’n ostyngedig gyda’th Dduw’ (Micha 6.8).

Nid gorfodaeth yw ystyr ‘ewyllys yr Arglwydd’. Nid oedd unrhyw orfodaeth ar Saul i wneud yr hyn a ewyllysiai’r Arglwydd. Y ffaith iddo wneud adduned, ac yna ceisio twyllo Duw oedd y pechod a’i condemniai. 

Yn Actau 5, adroddir stori Ananias a Saffeira yn gwerthu darn o dir o’u heiddo hwy eu hunain, ac yna gwneud sioe o gyflwyno’r arian a gawsant at waith yr Eglwys Fore lle 

‘ni fyddai neb yn dweud am ddim o’i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin’ (Actau 4.32). 

Ond roedd y ddau wedi penderfynu cadw cyfran o’r tâl am y tir iddyn nhw eu hunain, a thwyll oedd dweud iddynt rannu’r cyfan o’r arian a gawsant. Sylw Pedr ydoedd:

‘Tra oedd [y tir] yn aros heb ei werthu, onid yn dy feddiant di yr oedd yn aros? Ac wedi ei werthu, onid gennyt ti oedd yr hawl ar yr arian? Sut y rhoddaist le yn dy feddwl i’r fath weithred? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw’ (Actau 5.4).

Mae i dwyll ei ganlyniadau. Credai D.L.Moody mai dros dro yn unig y gallwch dwyllo. Cymharai Martin Luther dwyll i gaseg eira sy’n tyfu wrth ei rolio ymlaen ac yn casglu’r sbwriel sydd yn ei llwybr yn ogystal â’r eira. Mae’n ddigon hawdd inni dwyllo’n gilydd am bob math o bethau, a rhaid derbyn y canlyniadau. Fodd bynnag ni all neb dwyllo’r  Duw Hollwybodol.

Math o dwyll yw rhagrith. ‘Byddai’n well gennyf fod yn bechadur gonest na bod yn rhagrithiwr celwyddog,’ meddai rhywun. Dyfyniad di-enw arall welais yw: ‘A hypocrite is one who sets good examples only when he has an audience!’  Mynegiant allanol o gywilydd mewnol yw rhagrith - twyllo i guddio gwendid a bai. er mwyn creu argraff ar bobl eraill.

Gweddi

Arglwydd Dduw, ‘Nad imi fodloni ar ryw rith o grefydd heb ei grym’, ond gad i’m crefydd fod yn seiliedig ar ffydd yng Nghrist ac awydd i gerdded yn ôl ei draed.  Amen.

Guest User