22. Naomi a Ruth (Ruth 1-4)

Cefndir

Yn ystod cyfnod y Barnwyr, pan oedd newyn yn Israel oherwydd i’r cynhaeaf fethu, ymfudodd Elimelech gyda’i wraig Naomi, o Fethlehem i wlad Moab, a gwladychu yno. Aethant â’i meibion, Mahlon a Chilion, gyda nhw. Wedi i Elimelech farw, priododd y meibion â dwy Foabes, Orpa a Ruth. Ond bu farw Mahlon a Chilion cyn iddynt gael plant, a phenderfynodd Naomi y byddai’n dychwelyd i Fethlehem. Aeth y ddwy ferch-yng-nghyfraith gyda hi yn gwmni ar y ffordd. Ond wedi cyrraedd rhyw fan, anogodd Naomi y merched i ddychwelyd adre. Fe aeth Orpa a’i gadael, ond mynnodd Ruth fynd yr holl ffordd ac aros gyda hi ym Methlehem.  

Yno, ym Methlehem, roedd yn rhaid cael bwyd, ond yn hytrach na dibynnu ar eraill i’w bwydo, aeth Ruth i loffa yn y caeau ŷd - rhywbeth digon cyffredin yn y cyfnod hwnnw. Drwy lwc, fe ddewisodd gaeau Boas, a ddigwyddai fod o’r un tylwyrh ag Elimelech. Pan ddeallodd ef pwy oedd Ruth, bu Boas yn hynod o garedig wrthi a threfnu bod digon o loffion yn cael eu gadael iddi pryd bynnag y byddai hi’n lloffa.  

Pan sylweddolodd Naomi fod yr un a ofalai bod digon o loffion ar gyfer Ruth yn berthynas i Elimelech, dywedodd wrth ei merch-yng-nghyfraith: 

‘Edrych, mae ef  [Boas] yn mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu heno. Wedi i ti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d’adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed. Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae’n cysgu, yna dos a chodi’r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd lawr. Wedyn fe ddywed wrthyt beth i’w wneud’ (Ruth 3.2-4).

Gwnaeth Ruth yn union fel y dywedodd Naomi wrthi am wneud, ac yn y bore pan sylweddolodd Boas pwy oedd yn gorwedd gydag ef, mae’n ei chanmol, ‘Bendith yr Arglwydd, arnat fy merch ... am iti beidio â mynd ar ôl y dynion ifainc, boed dlawd neu gyfoethog’ (Ruth 3.10). 

Heb fod yn hir wedyn, fe briododd y ddau.

Myfyrdod

‘Plus ca change, plus c’est la même chose.’ (‘Po fwyaf mae pethau’n newid, mwyaf y maent yn aros yr un fath!’) Mae’n rhyfedd gweld yn stori Ruth bethau sy’n cyfateb i’r sefyllfa sy’n bodoli heddiw. 

Yn gyntaf,  gogwydd y sawl sy’n ysgrifennu sy’n lliwio’r stori. Gwelwn hyn yn gyson yn y papurau newydd. Mae gan bob un sy’n ysgrifennu ei ogwydd ei hun at y stori. Nid oes modd derbyn papur newydd sy’n gwbl ddiduedd - fel y gwelwn adeg lecsiwn. Nid yw popeth a gawn mewn erthyglau yn y papurau crefyddol yn gwbl ddiduedd, chwaith. Mae teitl ambell gyfraniad yn ddigon i ddweud wrthym pwy yw’r awdur a beth i ddisgwyl yng nghynnwys yr ymdriniad, fel nad oes angen inni gymryd amser i’w ddarllen! 

Yn stori Ruth, mae agwedd y storïwr at y Moabiaid yn hollol wahanol i’r un a welir yn llyfr y Barnwyr, ac i’r hyn a ddisgwyliem. Roedd hi’n gyfnod o heddwch rhwng Israel a Moab pryd ysgrifennwyd y stori hon, ac mae’r Moabiaid yn cael enw da wrth dosturio â phobl oedd yn gorfod ffoi oddi wrth y newyn yn eu gwlad - pobl a alwem ni yn ‘ffoaduriaid economaidd; economic migrants’. Addolent dduwiau gwahanol, ac er iddynt fod yn elynion ar un adeg ni fu unrhyw ragfarn i rwystro dwy Foabes oedd wedi eu codi ar aelwydydd paganaidd i briodi dau ŵr ifanc o Israel a addolai’r ‘unig wir Dduw’.

Yn ail; yn aml disgrifir llyfr Ruth fel stori fwyaf ramantus y Beibl. Ond y gwir yw mai  stori am gynllwyn hen wraig i ddiogelu ei dyfodol hi ei hunan ydyw, ac nid stori am ramant serch! Naomi oedd yn gyfrifol am y cynllwyn. Dywedodd wrth Ruth i ymbincio, gwisgo gwisg arbennig, a thra fyddai Boas yn cysgu, mynd ‘a chodi’r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i’w wneud.’ Gweithred putain fyddai hynny, ond bwriad Naomi oedd denu Boas er mwyn gwneud yn siwr y byddai ganddi hi deulu i’w chynnal yn ei henaint.

Mae problem wynebu henaint yn un sydd yn gyffredin heddiw, ac mae’n cynyddu wrth i’r boblogaeth heneiddio, a phobl yn byw yn hirach. Teuluoedd mawr oedd yn ateb y gofyn, erstalwm - a dyna’r ateb o hyd ymhlith llawer o bobl y trydydd byd. Gyda theuluoedd llai yn y Gorllewin, mae llawer yn gorfod edrych tuag at gartrefi gofal am ymwared; ond, â hithau wedi colli ei meibion yng ngwlad Moab, roedd rhaid i Naomi ddod o hyd i deulu arall i ofalu amdani hi. Llwyddodd yn ei chais am deulu newydd a fyddai’n cynnig iddi gartref, a’r teulu hwnnw oedd teulu ei merch-yng-nghyfraith a’i gŵr hithau, perthynas agos i’w diweddar ŵr. Pan anwyd mab i Boas a Ruth

‘... meddai’r gwragedd wrth Naomi, “Bendigedig fyddo’r ARGLWYDD am iddo beidio â’th adael heddiw heb berthynas; bydded ef yn enwog yn Israel. Bydd ef yn adnewyddu dy fywyd ac yn dy gynnal yn dy henaint oherwydd dy ferch-yng-nghyfraith, sy'n dy garu, yw ei fam ac mae hi'n well na saith mab i ti!” Cymerodd Naomi y bachgen a’i ddodi yn ei chôl a’i fagu’ (Ruth 4.14-16).

Yn drydydd, mae’r agwedd at ymfudwyr yn un bositif - yn wahanol iawn i’r hyn a welwn yn y mwyafrif o wledydd y byd heddiw. Derbyniwyd Elimelech a’i deulu yng ngwlad Moab fel ffoaduriaid oherwydd y newyn yn Israel, a derbyniwyd y Foabes gan bobl Israel pan aeth yno gyda Naomi. Trist yw ymddygiad y gwledydd cyfoethog tuag at ffoaduriaid ein cyfnod ni - yn enwedig pan mae plant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, neu pan fo pobl yn cael eu gwahardd oherwydd hilyddiaeth, cenedligrwydd  neu eu crefydd. Cânt groeso os byddant  wedi cael eu haddysgu mewn gwaith a’u harbenigrwydd o ddefnydd i’r wlad sy’n eu derbyn - ac fel ni. Mae’n wir fod Ruth wedi sôn am newid ei chrefydd (Ruth 1.16), a dichon iddi hi wneud hynny, ond nid oes unrhyw gyfeiriad yn y stori yn dweud iddi orfod gwneud hynny, ac mai dyna a’i gwnaeth yn dderbyniol i bobl Israel.

Gweddi

Arglwydd grasol, cynorthwya ni i gofio ei bod yn ‘ddyletswydd ar bawb sydd mewn ystafell ddiogel, i agor y drws pan fydd  unrhywun sydd mewn perygl y tu allan i’r drws yn curo’. Amen

Guest User