21. Samson (Barnwyr 13-16)

Cefndir

Stori erchyll yw stori Samson.

Fel gyda nifer o arweinwyr Israel, cafodd Samson ei eni’n fab i wraig oedrannus wedi iddi hi gael ymweliad gan ‘ddyn’ i ddweud y byddai hi’n beichiogi a chael bachgen. Yr un pryd, cafodd gyfarwyddiadau sut y dylid magu’r bachgen. Dywedwyd wrthi hi i beidio yfed gwin na diod gadarn, peidio bwyta dim byd aflan, na thorri gwallt y baban pan gawsai ei eni ‘oherwydd y mae’r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o’r groth’ (Barnwyr 13.4-5). Ymddangosodd y ‘dyn’ iddi ddwywaith wedyn. Ailadroddwyd y cyfarwyddiadau wrth y wraig pan oedd hi wrth ei hunan, a’r trydydd tro, pryd  galwodd ar ei gŵr, Manoa, i glywed y neges hefyd.

Pan soniodd Manoa am ladd myn gafr a pharatoi pryd o fwyd iddo, gwrthododd y ‘dyn’ y bwyd, ond awgrymodd y gellid rhoi’r myn gafr yn boethoffrwm diolch i’r Arglwydd. Wrth i’r fflamau godi o’r poethoffrwm ar allor y teulu, gwelodd y ddau y ‘dyn’ yn esgyn gyda’r fflamau, a dyna pa bryd y bu iddynt sylweddoli mai angel yr Arglwydd ydoedd.

Cyfraniad Samson yn ystod ei ugain mlynedd fel Barnwr, oedd defnyddio’i gryfder anhygoel i gadw’r Philistiaid rhag difetha Israel. Mae’n syndod, felly, iddo briodi â dwy o ferched Philistia, ac i’r ddwy ei dwyllo. Ond dywed yr ysgrythyr mai pwrpas Duw oedd y rheswm am hynny (14.4).

Ar ei ffordd i Timna i chwilio am y ferch yr oedd eisoes wedi syrthio mewn cariad â hi, lladdodd lew â’i ddwylo ei hun, a’i ddarnio.  Yn ddiweddarach, pan ar y ffordd i briodi’r ferch, aeth heibio i’r lle y lladdodd y llew. Dim ond y sgerbwd oedd ar ôl, ond roedd haid o wenyn wedi nythu yno, a dechrau casglu mêl. Mewn dathliad a drefnwyd gan y dynion cyn y briodas, heriodd Samson 30 o wŷr ifanc Philistia i ddatrys pos a osodai. Os llwyddent, byddai’n rhoi darn o frethyn a siwt newydd i bob un ohonynt; ond os methent, byddai’n rhaid i bob un ohonynt wneud yr un peth iddo yntau. Y pôs oedd:

O’r bwytawr fe ddaeth bwyd,
ac o’r cryf fe ddaeth melystra‘  (Barnwyr 14.14).

Roedd rhaid ateb y pôs yn ystod wythnos y dathliadau. Ond, â hwythau’n methu dod o hyd i’r ateb ac yn gyndyn i fynd i ddyled er mwyn talu am ddillad i Samson, aeth y bechgyn a bygwth bywyd ei wraig os na ddatgelai hi’r ateb iddynt. Ni wyddai hi’r ateb, ond cafodd berswâd ar Samson y diwrnod cyn y briodas i ddweud yr ateb wrthi. Dywedodd hi wrth y bechgyn, a bu’n rhaid i Samson eu talu. Gwnaeth hyn drwy fynd i Ashcelon a lladd deg ar hugain o Philistiaid, gan gymryd eu dillad er mwyn talu ei ddyled i’r bechgyn. Roedd wedi gwylltio’n lân, felly aeth adref at ei rieni, a rhoddwyd ei wraig i’r un a fyddai wedi bod yn was priodas iddo’  (14.19).

Ni wyddai tan iddo ddychwelyd at ei wraig i’w thad ei rhoi mewn priodas i’r gwas priodas, gan feddwl na ddychwelai Samson o gwbl. Roedd clywed hynny’n ddigon o reswm i ddial ar y Philistiaid. Gwnaeth hynny drwy roi eu caeau ŷd, ysguboriau, gwinllannoedd a choed olewydd ar dân. Yn eu tro, dialodd y Philistiaid ar Samson drwy ladd ei gariad a’i thad, ac ymatebodd ef drwy  ladd cymaint ag y gallai o Philistiaid. 

Pan ddeallodd yr Israeliaid fod byddin Philistia yn bwriadu  ymosod arnynt, perswadiwyd Samson i adael iddynt ei rwymo a’i drosglwyddo i’w elynion. Ystryw oedd y cyfan o ran Samson i gael mynediad i wersyll y Philistiaid lle torrodd yn rhydd gan ddefnyddio asgwrn gên asyn i ladd y mil o ddynion oedd yn ei warchod. Ychydig wedyn, gwelwyd ef yn ymweld â phutain yn Gasa, a threfnodd y bobl i’w ladd pan ddelai allan o’i chartref yn y bore. Ond gadawodd Samson yn ystod y nos a phan welodd gatiau’r dref wedi cau, fe’u rhwygodd allan o’u seiliau a’u cario ymaith!

Yn fuan wedyn, fe syrthiodd mewn cariad a phriodi â Delila, Philistiad arall. Llwgr-wobrwywyd hi i ddargafod ble gorweddai cryfder Samson, ac wedi sawl ymgais ar ei rhan, dywedodd ef wrthi mai yn ei wallt yr oedd cyfrinach ei gryfder, ac fe eilliodd hi ei ben a’i roi i’w elynion. Yr oedd siafo’i ben yn arwydd ei fod wedi torri ei gyfamod fel Nasaread - nid am y tro cyntaf - a’r canlyniad fu iddo golli’r cryfder yr oedd Duw wedi ei roi iddo. Yr oedd yn gwbl ddiamadferth. Fe’i daliwyd gan  y Philistiaid a’i ddallu drwy dynnu ei lygaid. Gorfodwyd ef  i ‘falu blawd yn y carchardy’. I ddathlu’r ffaith fod Samson wedi ei ddal ac na allai eu niweidio hwy mwyach, trefnwyd gŵyl yn nheml Dagon. Aethant ag ef, a’i roi i sefyll rhwng dau biler ar ganol y deml. Gweddïodd Samson am gael ei nerth yn ôl. Gwrandawyd ar ei weddi a gwthiodd yn erbyn y pileri. Syrthiasant, a’r adeilad gyda hwy, gan ladd pob un o’r dyrfa fawr oedd o’i fewn ac ar y to.

Ymffrost Llyfr y Barnwyr yw: ‘Lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd’ (Barnwyr 16.30).

Myfyrdod

Mae Numeri 6.1-21 yn rhoi disgrifiad manwl o amodau ar gyfer y sawl sy’n Nasaread. Bydd yn un sydd wedi ei gysegru’n llwyr i Dduw, a’r prawf o hynny yw na fydd yn eillio ei ben; ni fydd yn yfed  unrhyw ddiod meddwol a wneir o rawnwin, nac yn yn bwyta grawnwin; ac na fydd yn cyffwrdd â chorff marw. Caiff rhyw gynneddf arbennig gan Dduw os gwna hyn. Yn achos Samson, cryfder i’w ddefnyddio yn erbyn gelynion Israel, y Philistiaid, yw’r wobr a gafodd.

Ni ddylem feirniadu safonau ddoe gan ddefnyddio safonau heddiw fel ffon fesur, ond ni allwn beidio â gresynu at farbareiddiwch stori erchyll Samson, ac iddo fod mor fileinig wrth ddefnyddio’r ddawn a roddod Duw iddo. Ond oni welir yr un barbareiddiwch yn ein dyddiau ni - a hynny yn enw crefydd yn aml.  Mae ymerodraethau wedi cael eu sefydlu ar gefn barbareiddiwch - gan gynnwys yr ymerodraeth Brydeinig. Mae rhyfeloedd a sôn am ryfeloedd yn gyffredin, fel y mae ymosodiadau terfysgwyr ar bobl ddiniwed wrth eu dyletswyddau beunyddiol, neu wrth addoli. Mae clywed am wŷr ifanc yn cario cyllell ar strydoedd dinasoedd - a’i defnyddio - yn ddigon cyffredin y dyddiau hyn, hefyd. A beth am y barbareiddiwch yn erbyn merched a phlant sydd, ysywaeth, yn gyffredin mewn llawer gwlad - ac nid yw Cymru yn rhydd ohono chwaith. Nid yw bygwth a dial gan wladwriaethau yn ddiarth. Mae digon o fomiau a allai ddifodi gwledydd cyfan yn y byd. Mae gwledydd yn ofni mentro bod y cyntaf i’w defnyddio, ac yn ofni mwy eu gweld yn nwylo terfysgwyr na fyddai’n ymatal rhag eu defnyddio pe caent y cyfle.   

Pwy ydym ni, felly, i gondemnio Samson a’i gyfnod? Ceir barbareiddiwch yn ein byd ni. ‘Pwy bynnag ohonoch sy’n ddibechod, gadewch i hwnnw fod yn gyntaf i daflu carreg’ (Ioan 8.7).

Gweddi

Arglwydd Dduw, camddefnyddiodd Samson y dalent a roddaist iddo; cadw ni rhag camddefnyddio, neu anwybyddu’r dalent a gafodd pob un ohonom i glodfori dy enw di.   Amen.

Guest User