21192792_10155090747691859_8920143067798160948_n.jpg

Ar ôl paned cyflym yn y Festri'r Tabernacl ar ddiwedd Oedfa'r bore, daw  criw o oedolion amrywiol ein hoed at ein gilydd yng nghornel y capel i drafod yr efengyl yng nhyd-destun bywyd bob dydd. Sut gallwn ni ddeall, dangos a rhannu cariad Duw yn ymarferol?

Dan ysbrydoliaeth athrylithgar nodiadau Eirlys Pritchard Jones ac eraill, ystyriwn ddarlleniadau o'r Beibl fel sbardun i osod ein Cristnogaeth ar waith bob dydd. Yn ddiweddar, arweiniodd stori Ruth at drafodaeth am ffoaduriaid heddiw, ac yn arbennig i ofyn sut gallwn ni gyfrannu at brosiect yng Nghaerdydd sy'n croesawu teulu o Syria i ymgartrefu yma.

Mae safle'r capel yng nghanol siopau a bwrlwm masnach Caerdydd yn ein hatgoffa'n gyson o gyflymdra a chymlethdodau bywyd cyfoes. Mae'r dosbarth yn cynnig cyfle i gamu nôl ac ystyried deall y Gair yn well i geisio ei roi ar waith bob dydd.

Croeso i bawb ymuno â ni.