27. Nathan (2 Samuel 7.2-17 a 12.1-25; 1 Brenhinoedd 1.1-40)

Cefndir

Y mae un ar ddeg o ddynion a elwir ‘Nathan’ ar dudalennau’r Hen Destament; ond am Nathan, proffwyd yr Arglwydd, y sonnir fwyaf, er mai digon prin yw’n gwybodaeth amdano ef, hefyd. Dim ond tair gwaith y cwrddwn ag ef, a hynny bob tro yn hanes Dafydd.

Nid oes sôn amdano cyn iddo ymddangos gerbron Dafydd a chymeradwyo’r brenin am ei anfodlonrwydd fod Arch Duw yn cael ei chadw mewn pabell, ac yntau’n byw mewn palas. Ymateb cyntaf Nathan oedd,‘Dos, a gwna bopeth sydd yn dy galon, oherwydd y mae’r Arglwydd gyda thi.’ Ond dychwelodd y noson honno gyda neges wahanol oddi wrth yr Arglwydd. Mae Duw yn dweud wrth Dafydd am beidio adeiladu teml iddo, gan ei atgoffa na fu Ef yn preswylo mewn tŷ erioed cyn hynny. Teithiai o le i le gyda’i bobl mewn pabell. Caiff Dafydd ei atgoffa mai Duw â’i cododd o fod yn fugail i fod yn arweinydd Israel, ac fe fu gydag ef bob amser. Fodd bynnag, pan fyddai teyrnas Israel yn sefydlog, ac yn byw mewn heddwch â’r cenhedloedd o’i chwmpas, dyna’r amser i adeiladu Teml, meddai Duw. Addawodd hefyd mai mab i Dafydd fyddai’r un a gawsai adeiladu’r Deml. [Ceir yr un stori yn 1 Cronicl 17.]

Mae Nathan yn ymddangos nesaf yn 2 Samuel 12.1-25, ar ddiwedd yr hanes am odineb Dafydd â Bathseba, merch brydferth â welodd y brenin yn ymolchi tu allan i’w chartref. Roedd hi’n wraig i un o’i filwyr, Ureia. Pan sylweddolwyd ei bod hi’n feichiog ar ôl eu cyfathrach ac na fyddai modd dweud mai ei gŵr oedd tad y plentyn, trefnodd Dafydd fod cadfridog ei fyddin yn rhoi Ureia yn y man mwyaf peryglus posibl yn y frwydr nesaf a ymladdai. Lladdwyd Ureia, ac roedd Dafydd yn rhydd i briodi ei gariad newydd.

Yn fuan wedyn daeth Nathan at Dafydd ac adrodd wrtho am fugail tlawd yn ei deyrnas oedd wedi colli yr unig oen oedd ganddo - anifail anwes y teulu. Yn hytrach na lladd un o’i ddefaid neu ychen ei hunan i baratoi gwledd o groeso i gyfaill a ymwelodd ag ef, dygwyd yr oen y bugail tlawd gan ŵr cyfoethog a’i ladd ar gyfer yr arlwy, gan adael y bugail heb ddim. Cynddeiriogodd Dafydd wrth wrando ar y stori, a chyhoeddodd fod y dyn a wnaeth hynny yn haeddu marw, a byddai’n rhaid iddo wneud iawn am ei drosedd. Ymateb syml Nathan oedd, ‘Ti yw’r dyn’, ac ychwanegodd fod Duw yn ddig wrth Dafydd, o gofio cymaint a wnaeth drosto. Yr oedd wedi dirmygu gair yr Arglwydd a gwneud beth oedd yn ddrwg yn ei olwg. Byddai Dafydd yn dioddef o ganlyniad i hyn, a byddai yr hyn a ddigwyddodd yn amlwg i bawb, ac nid yn weithred lechwraidd fel y bwriadai’r brenin iddi hi fod. Edifarhaodd Dafydd, ond roedd y trafferthion a gafodd ar ôl hynny yn hysbys i bawb

Bu farw’r plentyn a anwyd o’i gyfathrach odinebus â Bathseba, ond cawsant fab arall ar ôl hynny, sef Solomon.

Caiff Nathan ran fechan ar ddechrau stori’r brenin Solomon. Roedd yn un o’r rhai a eneiniodd Solomon fel olynydd Dafydd, ar gyfer y dydd pan fyddai’r brenin farw. Dafydd ei hun orchmynnodd iddynt wneud hynny.

Myfyrdod

Cyfeiria Geiriadur Thomas Charles at Nathan fel ‘cyfaill cyfrinachol Dafydd’, heb roi unrhyw eglurhad am ei ddisgrifiad ohono. Beth, tybed, a welodd ef ym mherthynas y ddau iddo fedru dweud bod y proffwyd yn gyfaill cyfrinachol i’r brenin? Mae’n haws gweld cryfder y proffwyd yn y berthynas na gweld yr elfen gyfeillgar, gyfrinachol.

‘Drych yw’r cyfaill gorau’, meddai’r George Herbert (y bardd a aned yng Nghastell Trefaldwyn) - ond ni olygai ddrych i syllu arno er mwyn inni sicrhau ein bod yn edrych ar ein gorau! Mae’n ddrych, am fod un ffrind yn gallu helpu ffrind arall i weld ei hunan fel y gwêl eraill ef. Siarad amdano y tu ôl i’w gefn a wna dyn diarth neu elyn, ond mae cyfaill da yn agored, ac yn gallu rhannu’r hyn sy’n wir heb beri tramgwydd. ‘My best friend is one who brings out the best in me’, meddai Henry Ford. Mae modd ichwi wybod bob amser pwy sy’n wir gyfaill: pan fyddwch wedi gwneud ffŵl ohonoch eich hun, nid yw ef yn teimlo eich bod wedi achosi niwed parhaol!

Faint ohonom, tybed, fyddai wedi osgoi condemnio ffrind oedd mor bwysig a dylanwadol â Dafydd, rhag inni golli ei gyfeillgarwch?  Ni pheidiodd Nathan â rhannu ei feirniadaeth o’r brenin, ond fe’i gwnaeth mewn ffordd na niweidiai eu cyfeillgarwch. Pan oedd yn gwahardd Dafydd rhag adeiladu Teml i’r Arglwydd, mae’n cydnabod  y byddai’n cael ei hadeiladu rhyw ddiwrnod, ond yn atgoffa’r brenin fod rhagor o ryfeloedd a brwydrau i ddod cyn bod y deyrnas yn sefydlog gyda chartref i’r Arch. Arferwyd cario’r Arch gan fyddin Dafydd i faes y gad fel swynbeth (talisman) i sicrhau buddugoliaeth mewn brwydr.

Yr un oedd ffordd Nathan o beri i Dafydd weld ei bechod wedi i’r brenin drefnu bod Ureia yn cael ei ladd. Gwyddai yn dda sut y byddai hen fugail yn ymateb i ladrad unig oen rhyw fugail tlawd gan berchennog cyfoeth mawr; ac nid oedd rhaid i Nathan ond dweud, ‘Ti yw’r dyn’, i’r neges gyrraedd adref. Nid condemnio drwy athronyddu a wnaeth Nathan, ond ymestyn am y gwirionedd mewn stori a dameg.

Dyna ffordd Iesu o drafod ei gyfeillion; ond aeth ef gam ymhellach, fel gyda’r sgolor Iddewig a ofynnodd iddo ‘Pwy yw fy nghymydog?’ Ceisio’i gyfiawnhau ei hun a baglu’r Iesu wnaeth y sgolor. Cafodd yr ateb i’w gwestiwn ar ffurf dameg - dameg y Samariad Trugarog. Pe gofynnid i Paul, ‘Pwy yw fy nghymydog?’, hawdd dychmygu mai traethawd diwinyddol, astrus fyddai ei ateb ef!

Tybed a ydym ni yn athronyddu gormod am y Ffydd, heb wneud ein bywyd yn ddameg weithredol, weledol, o’n ffydd ni?

Gweddi

O’r fath Gyfaill ydyw’r Iesu,
ffrind ymhob ystorom gref ...
Diolch, Arglwydd, dy fod yn ffrind da, sy’n ein cynorthwyo ac yn eiriol drosom yn nhroeon trwstan bywyd.  Gwna ninnau’n ffrindiau da i eraill, gan gynnwys dieithriaid.  Amen.

Guest User