19. Gideon (Barnwyr 6-8)

Cefndir

Wedi marwolaeth Josua, ni fu gan yr Israeliaid unrhyw un person a reolai dros yr holl wlad. Yr oedd ganddynt Farnwyr. Arweinwyr milwrol lleol oedd rhain a frwydrodd i gadw Israel  rhag gorfod byw o dan arglwyddiaeth gwlad arall ac addoli duwiau paganaidd wedi iddynt feddiannu Gwlad yr Addewid. Nodir enwau deuddeg ohonynt, gan gynnwys un wraig, Debora, ond mae stori tri ohonynt yn llawnach na hanes y lleill. Gideon, a’i frwydr yn erbyn y Midianiaid a’u halogiad o grefydd yr Iddewon, yw un o’r tri.

Nid y ffaith fod ganddo nifer o wragedd a 70 (!) o feibion sy’n gwneud stori Gideon yn gofiadwy, ond y ffaith ei fod yn ŵr mor wyliadwrus mewn perthynas â’i ffydd, a’i gred. Gofynnodd, dro ar ôl tro, i Dduw roi prawf iddo mai Ef oedd yr un â siaradai ag ef. Gofal oedd yr esboniad am y ffordd y dewiswyd pwy a gawsai wasanaethu yn y fyddin a arweiniodd yn erbyn y Midianiaid.  Cyn iddo ufuddhau i’r alwad i ddryllio allor ei dad i Baal a’r polyn a anrhydeddai’r dduwies Ashera, bu’n rhaid i’r Arglwydd gadarnhau mai dyna oedd ei ddymuniad Ef. Fel yn stori Elias, cadarnhaodd Duw ei alwad i Gideon drwy gyflawni’r wyrth o gynnau tân ar allor newydd ei chodi a’i pharatoi ar gyfer aberth.

Pan alwyd ar Gideon eto i ymosod ar y Midianiaid a’r Ameliciaid ac eraill o’r dwyrain oedd wedi casglu ynghyd i groesi’r Iorddonen, dywedodd wrth Dduw: 

‘“Os wyt ti am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist, dyma fi’n gosod cnu o wlân ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a’r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist.” Felly y bu. Pan gododd bore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol â’r dŵr. Ond meddai Gideon wrth Dduw, “Paid â digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall â’r cnu: bydded y cnu’n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.”  Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu’n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd’ (Barnwyr 6.36-40)

Wedi iddo gael y cadarnhad a geisiai, casglodd fyddin gref o lwythau Manasse, Asher, Sabulon a Nafftali i ymuno ag ef yn yr ymgyrch. Dywedodd Duw wrtho fod ei fyddin yn rhy fawr, gan ei fod am i bobl wybod mai Ef ei hun oedd y grym y tu ôl i’r milwyr. Gyrrwyd y rhan fwyaf  adre, a phan oedd ond mil ar ôl, dywedodd Duw wrth Gideon fod llawer gormod o hyd i’w bwrpas. Gorchmynnodd ei fod yn cymryd y dynion i lawr i’r afon, a gorchymyn iddynt yfed. Penliodd rhai a llapian y dŵr fel y gwna cŵn, tra bod 300 wedi mynd ar eu gliniau a chodi’r dŵr i’w genau â’u dwylo. Y tri chant a ddewiswyd gan yr Arglwydd i fynd gyda Gideon. Roeddent hwy yn fwy gwyliadwrus na’r lleill - yn gallu gweld beth oedd yn digwydd o’u cwmpas, tra byddai’r lleill yn edrych lawr wrth yfed.

Roedd Gideon yn dal i geisio arwydd bod ei fyddin fechan yn ddigon cryf i ymosod. Cafwyd y prawf pan aeth i ysbïo trefniad gwersyll y Midianiaid, a chlywed milwr yno yn proffwydo y byddai eu Duw yn rhoi’r fuddugoliaeth i’r Israeliaid. Aeth Gideon a threfnu ei filwyr yn dri charfan i ymosod, a ffôdd y gelyn mewn panig. Buddugoliaeth i Gideon eto.

Myfyrdod 

Byddwn yn aml yn clywed yr awgrym fod Duw yn rhoi prawf arnom ni; ond mae Gideon  yn wahanol, wrth iddo alw ar yr Arglwydd i brofi mai Ef oedd yr un â siaradai ag ef.  Ac roedd yn ddigon haerllug i ddweud wrth Dduw pa fath o gadarnhad y mae am ei gael ac yna yn gofyn am brawf pellach. Mae’n ymddangos fel pe bai’n ceisio bargeinio â Duw: ‘Fe wnaf fi hyn i Ti, ond i Ti wneud hyn i mi!’ 

Ond nid dyna oedd hi yn hanes Gideon mewn gwirionedd. Ceisio cadarnhad a wnâi ef i’r hyn y mae’n deall y gelwir arno i’w wneud. Roedd ganddo ffydd yn Nuw ac roedd am ei wasanaethu - dyna pam y troes ato; ond nid oedd yn sicr ei fod yn deall beth roedd yr Arglwydd yn gofyn ganddo. Y prawf fod y Cristinogion cynnar yn ei edmygu am yr hyn a wnaeth, oedd iddo fod ymhlith y rhai a ganmolir fel un o Gewri’r Ffydd yn yr Epistol at yr Hebreaid, pennod 11.  

Ond cofiwn nad peth unochrog yw bod dyn yn awyddus i roi prawf ar Dduw. Caiff pob un ohonom ei brofi ar adegau. Mae rhai yn dehongli Mathew 6.13 fel pe bai’n awgrymu mai Duw sy’n rhoi y prawf arnom ni. Mae nifer o fannau yn y Beibl sy’n awgrymu hyn, ond nid dyna a wna’r Iesu yn y weddi a ddysgodd i’r Disgyblion. Mae Beibl.net yn dangos nad Duw sy’n gyfrifol am ein profi: ‘Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg’; dyna yw’r trosiad yno. Ceir rhai cyfieithiadau Saesneg sy’n awgrymu’r un peth. Cyfieithiad J.B.Phillips (The New Testament in Modern English), yw ‘Keep us clear of temptation’, gyda’r Contemporary English Version yn dweud, ‘Keep us from being tempted’.  Mae un hen destun Lladin cynnar o Weddi’r Arglwydd yn dweud ‘Paid â gadael inni gael ein harwain i mewn i demtasiwn.’ Cawn ein harwain i demtasiwn, ond nid Duw sydd yn gwneud hynny. Roedd Iago’n ymwybodol o’r camddeall ymhlith Cristnogion ei ddydd cyn i’r Efengylau gael eu hysgrifennu: ‘Ni ddylai neb sy’n cael ei demtio ddweud, “Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn”; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef yn temtio neb’ (Iago 1.13). Drygioni (yr ‘Un Drwg’) sy’n ein temtio.

Y drafferth yw y gall y drwg fod yn ddeniadol, a’r deniadol yn hudol - ac ni feddyliwn am y canlyniadau. Mae’n syndod cymaint o’r blodau yn ein gerddi sy’n wenwynig i ryw raddau. Mae’r rhestr yn cynnwys cennin Pedr, y trilliw ar ddeg (hydrangea), yr iris, a’r tiwlip. Ond mae pob rhan o eraill, megis lili’r dyffryn a bysedd-y-cwn (foxglove) yn wenwynig a marwol. Er hynny, mae eu prydferthwch yn hawlio lle iddynt yn ein gerddi, heb inni feddwl am y perygl. Gall pechod hefyd fod yn ddeniadol, ac eto’n beryglus! 

Gweddi

Arglwydd Iesu,
N’ad im daflu golwg cariad
ar un gwrthrych is y rhod,
na gwneud gwrthrych fyth i’m gobaith
o greadur sydd yn bod;
cadw ’ngolwg wan i fyny’n
symyl atat ti dy hun,
heibio i barch ac heibio i amarch
heibio i ddaear, heibio i ddyn.

(C.Ff. 743, William  Williams)

 

Guest User