20. Jefftha (Barnwyr 11-12)

Cefndir

Stori drist yw stori Jefftha. Mab i butain a gafodd ei fagu gan ei dad ydoedd. Roedd yntau o Gilead, rhan o diriogaeth llwyth Manasse ar y rhan ddwyreiniol o’r Iorddonen. Roedd gan y tad wraig, ynghyd â nifer o feibion eraill, a derbyniwyd Jefftha yn un o’r teulu. Wedi iddynt dyfu, am na fynnent rannu eu hetifeddiaeth ag ef, fe fygythiodd y brodyr eraill eu hanner-brawd, Jefftha, a bu’n rhaid iddo ffoi. Ffodd i ardal ddiogelach, a daeth yn enwog fel arweinydd ‘nifer o wŷr ofer’.

Rai blynyddoedd ar ôl hynny, aeth arweinwyr Gilead i chwilio amdano a phwyso arno i ddychwelyd i’w harwain yn eu rhyfel yn erbyn yr Ammoniaid. Cyn ildio i’w cais bu’n rhaid iddynt gytuno mai ef fyddai pennaeth y Gileaid ped enillai’r rhyfel. Dyna pryd gwnaeth Jephtha adduned i’r Arglwydd: os enillai’r frwydr, yn erbyn yr Ammoniaid, byddai’n offrymu iddo y peth byw cyntaf a welai pan âi adref. Enillodd y rhyfel, a chadwodd gwŷr Gilead eu gair, a daeth Jefftha yn ‘farnwr’ arnynt.. Y peth byw cyntaf a welodd pan aeth yn ôl at ei deulu oedd ei unig blentyn, ei ferch ei hun, yn dod ato yn dawnsio i sŵn tympanau. Torrodd ei galon! Ond adduned yw adduned! Gwyddai’r ferch beth a olygai’r addewid a wnaeth ei thad, a derbyniodd y sefyllfa gan ddweud:

‘“ ... gwna i mi fel yr addewaist, wedi i’r Arglwydd sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid.” Ychwanegodd, “Caniatâ un peth i mi; rho imi ysbaid o ddeufis i grwydro’r mynyddoedd ac i wylo am fy morwyndod gyda’m ffrindiau.” Dywedodd yntau wrthi, “Ie, dos.” ...  Ar derfyn y deufis, daeth yn ôl at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn ôl yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach â gŵr.’ (Barnwyr 11.36-39).

Anrhydeddodd Jefftha ei ran yntau o’r fargen a wnaeth â Duw. Ond rhan bwysig arall yn stori Jefftha yw’r hyn a ddigwyddodd  rhwng llwyth Effraim a’r Gileaid. Roedd pobl Effraim yn anfodlon na chawsant hwy wahoddiad i ymuno yn y cyrch yn erbyn yr Ammoniaid er mwyn iddynt gael rhan o ysbail y rhyfel. Ac roeddent wedi sarhau’r Gileaid drwy ddweud: ‘Ffoedigion o Effraim ydych chwi, pobl Gilead ym mysg pobl Effraim a Manasse’ (Barnwyr 12.4). [Mae cyfieithiad Beibl.net yn fwy amrwd a dilornus na’r cyfieithiadau traddodiadol: ‘Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!’] Aethant i ryfel dros yr ensyniad, ac fe enillodd y Gileaid y dydd. 

Roedd llawer o ddynion Effraim wedi cael eu dal yr ochr arall i’r afon a rannai Gilead o Effraim, a dynion Gilead oedd ym meddiant y mannau lle gellid croesi’r afon. Lladdwyd pob un o filwyr Effraim a geisiai groesi yn ôl i’w wlad, a’r ffordd yr adnabyddwyd hwy oedd drwy ofyn iddyn nhw ddweud y gair ‘Shiboleth’. ‘Siboleth’ ddwedai’r Effraimiad, ‘gan na fedrai ynganu’n gywir.’ Mae William Morgan yn Beibl 1588 yn ceisio gwneud mwy o’r gwahaniaeth sydd rhwng y ffordd y byddai’r ddwy ochr yn ynganu’r gair. Ei gyfieithiad ef oedd: ‘Yna y dywedent wrtho, dywet yn awr Schiboleth, dywede yntef Sibboleth, canys ni fedre efe lefaru felly.’ A thrwy’r prawf hwn , ‘bu farw dwy fil a deugain o ŵyr Effraim y pryd hwnnw’ (Barnwyr 12.6).

Myfyrdod

Mae enw Jefftha, hefyd, yn un a welir ymhlith arwyr y Ffydd yn Hebreaid 11.32. Ond yn wahanol i  Gideon, nid oedodd i geisio arweiniad yr Arglwydd, a gyda’r bwriad gorau, gwnaeth yr hyn nad oedd disgwyl iddo wneud. Gwnaeth adduned y byddai’n rhoi i’r Arglwydd y peth cyntaf a welai yn dod o’i allan o’i gartref pe cawsai’r fuddugoliaeth yn erbyn yr Ammoniaid. Ei ferch ei hun - ei unig blentyn - oedd yr un a welodd gyntaf, a bu’n ffyddlon i’w adduned. Trasiedi o’i wneuthuriad ei hunan oedd  ei cholli drwy ei haberthu. 

Ond ni chytuna lleiafrif o esbonwyr  iddo ladd ei ferch. Roedd hynny yn groes i gyfraith Moses, ac yn halogi enw’r Arglwydd: ‘Nid wyt i roi yr un o’th blant i’w aberthu i Moloch, a halogi enw dy Dduw’ (Lefiticus 18.21). Moloch, duw’r Canaaneaid, a gawsai ei anrhydeddu  pan aberthid plant.  

Mae modd cyfieithu ‘ac offrymaf’ yn yr adduned a wnaeth Jefftha fel ‘neu offrymaf’:

‘... beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i’m cyfarfod wrth imi ddychwelyd ... bydd yn eiddo i’r Arglwydd, neu offrymaf ef yn boethoffrwm.’ 

Y cyfieithiad hwnnw sy’n gwneud synnwyr o’r holl sôn am forwyndod ei ferch. Nid oedd am frysio i gyflawni ei adduned, a chaniataodd i’w ferch ddeufis o ryddid i grwydro gyda’i ffrindiau cyn iddi hi ddychwelyd yn barod i wynebu bwriad ei thad, a’i thynged - ac roedd yn gwbl fodlon i dderbyn beth oedd ar fin digwydd iddi hi. Gallai ‘offrymu’r ferch’ olygu y byddai Jefftha wedi addo ei rhoi i’r Arglwydd drwy ei chadw’n wyryf, a’i gwneud megis lleian. Byddai hynny’n aberth fawr iddo ef - collai ei ferch, a’i unig obaith am etifedd i barhau enw’r teulu. Hyn sy’n egluro’r sylw ei bod hi heb gael cyfathrach â gŵr ac yn dal yn wyryf (Barnwyr 11.40).

Ond yr elfen bwysig arall yn stori Jefftha yw’r hyn a ddigwyddodd  rhwng llwyth Effraim a’r Gileaid, a’r modd yr adnabuwyd pobl Effraim drwy’r ffordd yr ynganent ‘Shiboleth’. Roedd eu hacen yn wahanol i acen y Gileaid.  

Erbyn hyn mae’r gair ‘siboleth’ yn gyfystyr â’r ystrydeb a ddefnyddia un garfan i’w gwahaniaethu oddi wrth garfan arall. Gall fod yn slogan wleidyddol - a chlywn ddigon ohonyn nhw adeg lecsiwn! Diau fod eglwysi ac enwadau hefyd yn euog o ddefnyddio sibolethau i geisio eu gwahaniaethu oddi wrth eraill. Gall ddigwydd hefyd o fewn i eglwys pan gollfarnwn eraill am eu sibolethau hwy. Ond nid mewn geiriau y dylai’r Cristion wneud ei hun yn wahanol i eraill. Y ffordd rydym yn byw yw’r unig siboleth sy’n gweddu i ddilynwyr yr Arglwydd.

Ai dim ond siboleth, ynteu mynegiant o’n ffydd, ein gobaith a’n cariad, yw ein Cristnogaeth ni? Mae ein ffyddlondeb i achos Iesu yn awgrymu beth fydd ein hateb i’r cwestiwn hwnnw. 

Gweddi

Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy
yn frawd a phriod imi mwy;
Ef yn arweinydd, Ef yn ben
i’m dwyn o’r bedd i’r nefoedd wen.  Amen,

(W.W.; C.Ff. 305)

Guest User