17. Josua (Josua 1-24)

Cefndir

Y mae’r rhan fwyaf o stori Josua yn y llyfr sy’n dwyn ei enw, ond gwelir cyfeiriadau ato hefyd yn Exodus, Numeri, Deuteronomium a Barnwyr.        

Fe’i ganwyd yn yr Aifft cyn i’r Hebreaid ddianc oddi yno. ‘Hoshea fab Nwn’ oedd ei enw, ond roedd Moses yn ei alw’n ‘Josua’ (Numeri 13.16). Yn ôl y Beibl, roedd yn agos iawn at Moses, a bu’n gynorthwywr iddo - ei was, yn ôl Exodus 24.13 - ac yn olynydd iddo. Ar ôl i Aaron gael ei wneud yn Archoffeiriad yr Hebreaid, Josua oedd cydymaith cyson Moses. Roedd yn gwmni i Moses pan ddringodd Fynydd Sinai i dderbyn llechi’r cyfamod (Exodus 24.13) a chydag ef pan ddisgynnodd ddeugain niwrnod ar ôl hynny a chlywed  dathliad gwyllt y bobl o gwmpas y ddelw aur a adeiladodd Aaron iddynt (Exodus 32.17). Nid yw’n glir a fuodd gyda Moses o dan ‘gwmwl presenoldeb Duw’, sef y cwmwl a arwyddodd fod Duw gyda Moses.

Yr oedd Josua yn un o’r deuddeg ysbïwr a aeth i archwilio Gwlad yr Addewid, ac yn un o’r ddau a ddaeth yn ôl â neges gadarnhaol i Moses.

Wedi marw Moses. clywodd Duw yn dweud wrtho: 

‘Y mae fy ngwas, Moses, wedi marw; yn awr, croesa di  a’r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i’r wlad yr wyf fi’n ei rhoi i bobl Israel ... Byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni’th adawaf na chefnu arnat. Bydd yn wrol a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i’r bobl hyn feddiant o’r wlad yr addewais i’w tadau. Yn unig bydd wrol a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses i ti. Paid â gwyro oddi wrthi i’r dde na’r chwith, er mwyn i ti ffynnu ble bynnag yr ei. Nid yw’r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr ydwyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn i ti ofalu gwneud y cyfan sy’n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi’n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu’ (Josua 1.2-8).

Ef, felly, oedd yr arweinydd a drechodd drigolion Canaan a meddiannu’r wlad i’r Hebreaid. Daeth y fuddugoliaeth dros Jericho yn hawdd wrth ddilyn cyfarwyddiadau’r Arglwydd. Ond methiant gafwyd y tro cyntaf yr ymosodwyd ar dreflan fach, ‘Ai’. Nid oedd Duw gyda’i bobl am nad oedd y bobl wedi parchu ei ofynion. Collwyd brwydr y dylid fod wedi ei hennill yn hawdd. Ond pan droes Josua at yr Arglwydd, dangoswyd iddo’r rheswm am y methiant. Roedd Achan, un o’r milwyr, wedi dwyn peth o’r ysbail o Jericho a ddylai fod yn eiddo i Dduw ei hunan, sef: ‘clogyn hardd o Babilonia, dau gant o ddarnau arian, a bar o aur yn pwyso dros hanner cilogram’ (Joshua 7.21, Beibl.net). Yn ôl Cyfraith Moses, roedd hyn yn galw am y gosb eithaf, ac ni cheisiodd Josua osgoi’r penderfyniad mai hynny ddylid ei wneud. Ni cheisiodd chwaith osgoi penderfyniad arall fyddai’n amhoblogaidd ymhlith hynafgwyr y genedl, sef gweithredu penderfyniad Moses am hawl merched i etifeddu cyfoeth ac ystad y teulu, onid oedd gan y tad fab.

Myfyrdod

Josua yw’r disgybl delfrydol ymhlith holl gymeriadau’r Hen Destament.  

Disgybl ffyddlon ydoedd i Moses, ac os derbyniwn fod agwedd pobl at ryfel a dial heddiw yn wahanol i’r hyn oedd gan Moses yng nghyfnod yr H.D., mae Josua yn enghraifft dda o sut mae bod yn ddisgybl. Gellir dod o hyd i wendidau ymhlith disgyblion yr Iesu yn y Testament Newydd,  ond mae’n anodd rhoi bys ar wendid yng nghymeriad Josua. 

Bu Moses yn athro da iddo, a threuliodd yntau gymaint o amser ag y gallai yn ei gwmni. Gwnaeth bopeth yn ôl y Gyfraith a roddod Moses i’r genedl, ac os gwnâi gamgymeriadau - a digon prin oedd rheiny - dysgai ganddynt. Mae’n debyg mai ei egwyddor oedd: os gwneir yr un camgymeriad yr eildro, nid camgymeriad ydyw, ond dewis ffôl ar eich rhan. Astudiai’r Gyfraith a roddwyd ar Sinai. Roedd yn gryf ac yn ddewr iawn ei farn. Nid ofnai wneud penderfyniadau anodd dan gyfarwyddid yr Arglwydd, fel y penderfyniad i weithredu dyfarniad Moses o blaid hawl y ferch i etifeddu, os nad oedd gan y tad fab (Josua 17.6). Nid oedd yr egwyddor hon yn dderbyniol gan hynafiaid y genedl, ond ni pheidiodd Josua a’i wneud. Hefyd sefydlodd chwech o drefi lloches, er mwyn sicrhau na châi neb ddial ar gam ar y sawl a lochesai yno. Cadwodd ei air unwaith y gwnaeth addewid, hyd yn oed os mai trwy dwyll yr enillwyd yr addewid - fel yn achos pobl Gibeon (Josua 9-10).

Disgyblion i Grist ŷm ni fel Cristnogion. I fod yn ddisgybl da, rhaid bod yn awyddus i ddysgu. Nid oes gwerth mewn bod yn ‘ddisgybl claear’. ‘Some people drink from the fount of knowledge, others just gargle.’  Pa un o’r ddau ŷm ni, tybed?

Ond nid dysgu disgybl yn unig wna’r Arglwydd. Rhaid i’r disgybl weithredu yn ogystal a dysgu, fel y gwnaeth Josua. Dywed Thomas Charles Williams yn ei gofiant fod, Meistr Balliol,  Rhydychen yn annerch nifer o glerigwyr ifanc unwaith ac meddai: ‘You pray “Thy Kingdom come”; gentlemen, it is your duty to make it come.’

Ymddangosodd y coffâd canlynol mewn cylchgrawn eglwys dro yn ôl:

‘Gofidiwn orfod cyhoeddi inni golli un o aelodau mwyaf gwerthfawr ein heglwys, Rhywun Arall. Mae ei golli yn creu gwacter a fydd yn anodd ei lenwi ym mywyd yr eglwys. Bu Rhywun Arall yn weithgar yn yr eglwys hon ers nifer o flynyddoedd. Roedd yn barod ei gyfraniad bob amser, a pha bryd bynnag yr oedd eisiau gwneud rhywbeth yn ein plith, dywedai pobl, ‘Bydd Rhywun Arall yn fodlon ei wneud’.  Roedd Rhywyn bob amser yn dod i’r adwy. Roedd yn ffyddlon yn y cwrdd gweddi, yn barod ei gymwynas i’r Ysgol Sul, cynorthwyai gyda’r bugeilio, a gwnâi beth bynnag oedd yn galw am sylw o gwmpas y capel. Rhywun oedd un o gyfranwyr mwyaf hael yr eglwys, â’I law yn ei boced I gynorthwyo pob achos da. Dichon ein bod wedi pwyso gormod ar Rhywun Arall, oherwydd nawr ein bod wedi ei golli pwy ddaw I lanw’r bwlch?’

Gweddi

Arglwydd Iesu, 
Dysg fi yng ngwybodaeth
Dy ewyllys lân;
nerth dy gariad ynof,
dry dy ddeddfau’n gân. Amen.

(C.Ff. 781; Nantlais)

Guest User