14. Y Pharo ( Exodus 5-14)

Y Cefndir

Y comisiwn cyntaf a roddodd Duw i Moses oedd ei fod i fynd gydag Aaron, ei frawd, i hawlio rhyddid pobl Israel gan y Pharo. Roedd y bobl bellach yn gaethweision i’r Eifftiaid ac yn cael eu camdrin ganddynt.

Rhybuddiwyd Moses bod y Pharo yn ddyn penstiff, hunandybus, balch.  Fe wrthodai’r cais, a byddai rhaid dangos grym a gallu’r Arglwydd Dduw iddo cyn y gwelai unrhyw synnwyr, a gadael plant Israel yn rhydd. Mae pobl penstiff ar gael ymhob cenhedlaeth!

Aeth y ddau at y brenin, ond fel y cawsant eu rhybuddio, gwrthododd y Pharo â chytuno i’w cais am ryddid i’r Israeliaid, er i gyfres o ddeg pla daro’r Aifft yn ystod y misoedd canlynol oherwydd ei ystyfnigrwydd. Wedi i chwech pla daro’r Aifft, newidiodd Pharo ei feddwl ac roedd yn barod i ysgafnhau’r pwysau ar yr Iddewon, ond pan ddeallodd fod Moses yn hawlio bod yr holl Hebreaid i gael eu rhyddhau, ailfeddyliodd a thynnu’n ôl y cynnig. Digwyddodd yr un peth eto pan ddeallodd eu bod am adael yr Aifft. A digwyddodd yr un peth y trydydd tro wedi iddo gytuno iddynt cael eu rhyddhau. Y tro hwnnw oedd pan ddarganfu bod pobl Israel yn hawlio bod eu holl anifeiliaid i fynd gyda nhw hefyd.

Y drychineb olaf a ddigwyddai yn yr Aifft oedd bod Duw yn lladd y cyntafanedig ym mhob teulu yn y wlad, ac ni chawsai eu hanifeiliaid ddianc rhag yr un dynged. A phan ddigwyddodd hyn, ac yntau’n colli ei fab hynaf a’i etifedd, ildiodd y Pharo ac ymbil ar yr Israeliaid i adael ei wlad ar unwaith, gan gymryd eu heiddo gyda nhw. Ond teimlodd yn flin iddo ildio wedi iddynt adael, a cheisiodd rwystro’r mudo. Ni ddylai fod wedi anghofio bod rhywbeth gwaeth wedi digwydd o’r blaen pan newidiodd ei feddwl. Canlyniad tynnu ’nôl y tro hwn oedd bod trychineb arall i ddigwydd ym mywyd ei bobl, sef boddi ei filwyr yn y Môr Coch wrth iddo’u harwain yn dilyn y llwybr a agorwyd i’r Israeliaid.

Nid oedd y plaoedd wedi cael effaith o gwbl ar ardal Gosen, lle trigai pobl Israel, ac roedd yr Hebreaid i ddianc y dynged o golli’r cyntafanedig ym mhob teulu. Gwnaethant hyn drwy gynnal defod yr oeddent i’w dilyn, a chadw dathliad blynyddol ohoni wedi hynny. Hon oedd Gŵyl y Pasg.

Myfyrdod

Mae llawer yn ei chael hi’n anodd i newid eu meddwl - a’u harferion - fel y mae’n rhaid inni wneud y dyddiau hyn: cyfnod y Firws Corona.

Cefnodd Abraham ar y ddefod baganaidd o aberthu’r cyntafanedig i’r duwiau pan glywodd yr Arglwydd yn ei wahardd rhag lladd Isaac, ei fab; ond ni anghofiodd yr Hebreaid yr arfer. Credent fod y Duw Hollalluog ei hun ar adegau yn dal i alw am aberthu pobl, ond mai ei hawl Ef oedd i weithredu bryd hynny. Gwnaeth hyn yn yr Aifft ar achlysur rhyddhau’r Hebreaid. Na! ni chafodd yr Iddew hi’n hawdd i gefnu ar hen arferion a choelion. ‘Hen arfer, hon a orfydd’, meddai un ddihareb Gymraeg. Mewn cyfnod pan oedd aberthu yn dal yn rhan o’r grefydd Iddewig, dehonglodd Paul y Croeshoeliad fel aberth mewn ateb i alwad y Tad Nefol am ebyrth cyn y gallai faddau. Ai olion o’r hen draddodiadau am aberthu sydd y tu ôl i ddehongliad Paul a’r Cristnogion cynnar o’r Croeshoeliad? Roedd Paul yn byw yn y cyfnod cyn bod y Deml yn cael ei dinistrio ac aberthu’n peidio â bod. Tybed a fyddai wedi defnyddio delwedd arall i esbonio’r croeshoeliad pe bai Paul (a fu farw tua 64/65 O.C.) yn ysgrifennu wedi i’r Deml gael ei dinistrio yn 70 O.C., a’r arfer o aberthu bywyd anifail i fodloni Duw yn dod i ben?

Mae’r Eglwys yn ei chael hi’n anodd i newid traddodiadau ac arferion y ffyddloniaid ym mhob cenhedlaeth. Mae stori am hen aelod ffyddlon mewn rhyw eglwys yn cael ei gyfweld ar achlysur ei benblwydd yn gant oed. Gwnaeth y gohebydd y sylw y byddai’r hen ŵr wedi gweld llawer iawn o newidiadau yn ei eglwys dros y blynyddoedd. ‘Do!’ oedd ateb yr hynafgwr, ‘ac fe wrthwynebais bob un ohonyn’ nhw!’

Ceir stori arall am weinidog yn awyddus i symud piano o un ochr o’r festri i’r ochr arall. Gwrthwynebodd y diaconiaid y syniad! Felly âi’r gweinidog â chyfaill i’r festri, unwaith bob wythnos a symud y piano bum neu chwech modfedd ar y tro. Ni sylwodd neb - tan fod y piano yr ochr arall i’r festri!

Bu adeg pan oedd yr Ymneilltuwyr yn gwrthwynebu canu emynau mewn oedfa, am mai geiriau dynion oeddent. Wedi iddynt ildio a chaniatáu hynny, gwrthwynebwyd dod ag offeryn i fewn i’r tŷ cwrdd ar gyfer yr emynau! Ar ddechrau fy ngweinidogaeth, ymwelwn ag un hen achos yng Ngheredigion na chafodd na phiano nac organ erioed. Dim ond ers chwedegau’r ugeinfed ganrif y derbyniodd Bedyddwyr Cymru aelodau newydd o blith enwadau eraill, a rhoi Cymun i ymwelwyr nad oeddent yn Fedyddwyr. (Bedyddwyr Calfinaidd neu Bedyddwyr Neilltuol Caeth, oedd eglwysi Undeb y Bedyddwyr ar y pryd.)

Gall fod yn anodd i grediniwr newid ei ddeall a’i argyhoeddiad personol, hefyd. Fe ddylai ein deall o’r Ysgrythurau ddatblygu a newid, fel yr aeddfeda’n ffydd. Ond mae rhai pethau y teimlwn na allwn eu newid, ac eraill na fynnem eu newid. Y broblem yw na chytunwn ymhlith ein gilydd ym mha gategori y mae rhoi’r pethau hyn - hyd yn oed os ceisiwn arweiniad mewn gweddi. Yr Ysgrythur yw’r unig ganllaw sydd gennym. Gallwn rannu ein deall a’n hargyhoeddiadau am yr Ysgrythur ag eraill - ond mae’n rhaid derbyn y gall ein hesboniad ni o’r Beibl, a’n dehongliad, fod  yn gwbl wahanol i eiddo rhywun arall; a dylem barchu hawl y person hwnnw i gredu’n wahanol.

Parchu? Ie! Ond a ddylem gyfaddawdu? Yn y byd gwleidyddol mae’n dda gweld cyfaddawdu. Ond o ran ein ffydd, tybed a yw hi’n well glynu wrth yr hyn a ddeallwn y dywed yr Ysgrythurau wrthym ni, na chyfaddawdu a derbyn rhywbeth sy’n llacio a gwanhau ein hargyhoeddiad am y gwirionedd?

Oni all cyfaddawdu olygu ein bod yn derbyn rhywbeth nad ydym mewn gwirionedd yn ei gredu? ‘Yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb’.

Gweddi

Arglwydd Da, mae dy Air yn rhy gymhleth i neb ohonom fedru bod yn siwr ein bod yn ei ddeall yn iawn. Gofynnwn, felly, i Ti ein galluogi i gydnabod bod yn yr Efengyl ddirgelion sy’n rhy ddyrys i’n meddyliau bach ni, ac na allwn ond ymddiried yn yr argyhoeddiad a’r deall a blannodd yr Ysbryd Glân yn ein calonnau. 

Dysg imi garu’r Iesu
a’i ddilyn ef o hyd
gan roi fy mywyd iddo,
Gwaredwr mawr y byd;
goleued ei wirionedd
fy meddwl i a’m dawn,
doed ysbryd ei anturiarth
i’m bywyd i yn llawn.  Amen

(W.Rhys Nicholas; C.Ff. 832)

Guest User