13. Aaron (Exodus 4)

Y Cefndir

Roedd Aaron dair blynedd yn hŷn na’i frawd, Moses, ac mae’n rhaid ei fod wedi cael ei eni cyn bod y ddeddf yn gorchymyn lladd y cyntafanedig wedi dod i rym yn yr Aifft. Apwyntiwyd ef yn ladmerydd (‘proffwyd’ yw’r gair a ddefnyddir amdano) i Moses gan yr Arglwydd. Pan alwodd Duw ar Moses i’w gynrychioli o flaen y Pharo, dywedodd Moses ei fod yn ei chael hi’n anodd i gyfathrebu’n glir â’r bobl gyffredin oherwydd ei fod yn siaradwr gwael - yn ‘safndrwm a thafotrwm’. Felly daeth Aaron yn gefnogwr, a llefaru dros Moses ar y dechrau, ond mae ei swyddogaeth fel genau ei frawd fel pe’n dod i ben ar ôl y plaoedd a ddioddefodd yr Aifft, ac mae’r pwyslais wedi hynny ar Aaron fel arweinydd crefydd ‘newydd’ yr Hebreaid.

Defnyddiai Aaron ffon i gyflawni’r gwyrthiau a wnaeth wrth iddo gynorthwyo’i frawd yn ei ymwneud â Pharo. Ar un achlysur, dywedir i’w ffon droi yn neidr. Chwifio’i ffon a greodd y tri phla cyntaf i flino’r Aifft ynghyd â’r chweched a’r wythfed. Daeth ei ffon yn un o’r pethau a gysylltir yn gyson ag ef. Y ffordd y dewiswyd Archoffeiriad cyntaf yr Iddewon oedd fod Moses wedi galw ar arweinydd bob un o’r deuddeg llwyth i blannu ei ffon dros nos o gwmpas Pabell y Cyfarfod yn yr anialwch. Aaron oedd pennaeth llwyth Lefi, ac erbyn y bore, roedd ei ffon ef wedi dechrau blaguro, ac ystyriwyd mai ef oedd dewis Duw i fod yn Archoffeiriad. Cafodd yr offeiriadaeth ar ôl hynny ei hymddiried i lwyth Lefi (Numeri 17). Ŵyr oedd Aaron i Lefi, mab Jacob a Leah, ac o’r llinach honno y daeth holl offeiriaid Israel wedi hynny. Hwy yw’r  Lefiaid y sonnir amdanynt yn yr Efengylau.

Roedd gan ffon Aaron le arbennig ymlith creiriau’r Iddewon. Dywed Hebreaid 9:4 mai cynnwys Arch y Cyfamod oedd, ‘llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron a flagurodd unwaith, a llechau’r cyfamod’. Dim ond ‘y ddwy lech garreg a osododd Moses ynddi yn Horeb’ oedd ynddi i ddechrau (1 Brenhinoedd 8.9).

Ond er cymaint edmygedd yr Iddew o Aaron, roedd ymhell o fod yn arweinydd perffaith. Yn ystod y deugain niwrnod y bu Moses ar fynydd Sinai yn derbyn y dengair deddf a ysgrifennwyd ar lechi ym mhresenoldeb yr Arglwydd Dduw (Exodus 24:12), Aaron oedd yn gyfrifol am y genedl wrth droed y mynydd. Tra bod Moses yn oedi ar y mynydd yng nghwmni Duw, ildiodd Aaron i alwad y bobl am dduw gweladwy, fel oedd gan y cenhedloedd o’u cwmpas. Roedd hynny yn groes i ddymuniad a gorchymyn Duw (Exodus 20.4-5), ond dywedodd Aaron wrth y bobl i gasglu modrwyon aur a chlustlysau y bobl i’w troi yn eilun tebyg i darw ifanc. Cododd allor o flaen y ddelw a threfnu aberthau i ddathlu  daioni’r ‘Arglwydd’. Dywedodd Duw wrth Moses beth oedd yn digwydd wrth droed y mynydd, a phan ddychwelodd Moses atynt roedd y bobl yn dathlu yn null y paganiaid. Syrthiodd a chwalwyd y llechi a gariai. Ceryddodd Aaron; ond y bobl a ddioddefodd oherwydd dicter yr Arglwydd (Ex.32-33).

Camgymeriad arall a wnaeth Aaron oedd cefnogi ei chwaer, Miriam, yn ei honiad hi nad Moses oedd unig broffwyd Israel, ond ei bod hi a’i brawd Aaron yn broffwydi hefyd. Hi gafodd ei chosbi ac nid Aaron (gw. Myfyrdod 12).

Myfyrdod

Ond, ‘nid oes mynwent i rinweddau; nid oes bedd i enw da.’ Mae stori Aaron yn ein hatgoffa o wirionedd pwysig a welwn dro ar ôl tro yn y Beibl: gall y gorau fethu weithiau heb golli’r parch haeddiannol sydd iddo/iddi. Ceir sôn am nifer o arwyr a chymeriadau blaenllaw y Beibl yn cymryd cam gwag, rhai fwy nag unwaith. Nid yw camgymeriadau sy’n cael eu cydnabod yn dinistrio gwerth y pethau da a wnaed yn y gorffennol, nac yn rhwystr rhag gwneud pethau da eto yn y dyfodol. Gwyddai’r Iesu am wendidau pob un o’i ddisgyblion, ond gwelodd y graig yng nghymeriad Pedr, hefyd. A phwy ond Ef a gredai fod defnydd Apostol yn Saul o Darsus?

Tybed a yw’r egwyddor o faddau ac anghofio mewn perygl o fynd ar goll yn nyddiau’r gwefannau cymdeithasol? Mae’r wê yn rhoi’r gallu i bobl i gloddio yn y gorffennol, a dod o hyd i wybodaeth a gladdwyd flynyddoedd yn ôl. Ond os gwelir y posibilrwydd i bardduo rhywun enwog wrth wneud hynny, rhoddir cyhoeddusrwydd i bethau a faddeuwyd ac a anghofiwyd. Ysywaeth gall pobl gael pleser wrth wneud hynny, heb fecso am ganlyniadau yr hyn a wnânt. Dyna a welwn yn y dyddiau hyn, pan yw pobl yn gwrthod credu y gall person edifarhau a newid.

Er hynny, mae’n bwysig cofio nad sôn a wnawn am ddrygioni yn y gorffennol a guddiwyd yn fwriadol, heb fod yna unrhyw arwydd o gyffes nac edifeirwch amdanynt ar y pryd. Sôn a wnawn am gamweddau oedd yn hysbys yn eu dydd ac yr ymdriniodd cymdeithas â hwy bryd hynny.

Nid cyhoeddi’r gwirionedd yw cryfder y cyfryngau cymdeithasol -  nac hyd yn oed papurau newydd y dyddiau hyn! Ysywaeth, mae llawer o wirionedd yn sylw Mark Twain, ‘If you don't read  the newspaper you are uninformed, if you do read the newspaper you are  misinformed.’ Cario hadau drygioni a wna llawer o’r cyfryngau cymdeithasol, bellach. Ac maent yn ymhyfrydu hefyd mewn clecs, a gwyddom pa mor niweidiol y gall clecs fod! Mae Llyfr y Diarhebion yn rhybuddio:

Mae person croes yn achosi cynnen,
a'r un sy'n hel clecs yn chwalu ffrindiau  (Diarhebion 16.28; Beibl.net).

Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus –               
mae'r cwbl yn cael ei lyncu  (Diarhebion 18.8; Beibl.net).

Mae'r un sy'n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;                      
paid cael dim i'w wneud â'r llac ei dafod  (Diarhebion 20.19; Beibl.net).

Roedd Aaron yn ffodus nad oedd yn byw ymhlith pobl oedd am ei bardduo, ond rhai a barchai ei gyfraniad i’w gwlad, ac a edrychai heibio i’w wendidau a’i gamgymeriadau.

Gweddi

Arglwydd Dduw, fel roedd Aaron yn barod i fyw yng nghysgod ei frawd ifancaf, a’i wasanaethu, gad i ni fod yn fodlon i’th wasanaethu di yn y dirgel, heb ein gweld, os mai yno mae’r gwaith sydd gennyt ar ein cyfer. Paid â chyfrif  ein methiannau a’n camgymeriadau, fel y bydd eraill yn gwneud, ond maddau ein troseddau, a rho inni awydd i weithredu ar dy ran heddiw a phob dydd.  Amen.

Guest User