Gweddi gan y Parch. Hugh Matthews

Arglwydd Dduw, deuwn ger dy fron unwaith eto mewn ffordd sydd yn ddiarth i ni, ond credwn dy fod ti yma gyda ni nawr a chan bawb sy’n ymuno â ni heddiw, ble bynnag y maent. Duw sydd yn llond pob lle ac yn bresennol ym mhob man wyt ti. Mae hynny’n dangos i ni pa mor fawr wyt ti. Bydd pobl yn galw arnat ti bob awr o’r dydd, o fannau gwahanol  ar draws ein byd, ac mewn ieithoedd gwahanol; ond rwyt ti yn gallu clywed ac yn gwrando ar bob un sy’n galw ar dy enw, ac yn rhoi sylw i bob gweddi a offrymir - gweddi cynulleidfa a gweddi’r unigolyn. Wrth gofio hyn, ni allwn ond dweud,

Pa dduw ymhlith y duwiau
sydd debyg i’n Duw ni?
Mae’n hoffi maddau beiau,
mae’n hoffi gwrando’n cri.

Clyw ein gweddi heddiw wrth inni ddod o’th flaen mewn cyfnod pan rŷm ni fel pe mewn anialwch, heb wybod ble i droi - ‘mewn anialwch ’rwyf yn trigo’, fel yr Iddewon gynt. Ond gad inni gofio iddynt ddod allan o’r anialwch i fan gwell. Bu’r Arglwydd Iesu mewn anialwch hefyd ac yn wynebu anhawsterau mawr, ond gorchfygodd ef y cyfan a wynebodd yno a dod allan yn fuddugoliaethus. Pan deimlwn ni ein bod mewn anialwch personol, dim ond inni alw ar ei enw ef, fe ddaw atom i’n cysuro ac i’n harwain ninnau allan hefyd.

Arglwydd, arwain drwy’r anialwch,
fi, bererin gwael ei wedd,
nad oes ynof nerth na bywyd,
fel yn gorwedd yn y bedd:
hollalluog
ydyw’r un a’m cwyd i’r lan.

Am yr anialwch a grëwyd yn ein byd gan ‘firws corona’, gad inni fod yn ffyddiog y down allan ohono, maes o law. Yn y cyfamser, bydd yn agos at y cleifion sy’n dioddef o’r dwymyn hon; cysura hwy, a’r sawl gofidio am deulu a ffrindiau; a bydd yn dyner gyda’r rhai sy’n galaru ar ôl colli rhywun annwyl o’i herwydd. Bendithia ac ymgeledda y rhai sy’n gofalu am y cleifion: y doctoriaid, y nyrsys, y cynorthwywyr a’r gofalwyr; a chymdogion parod eu cymorth. Mae rhai yn mentro’u bywyd wrth ofalu am y cleifion. Diolch amdanynt i gyd; ac Arglwydd, ymgeledda hwynt a’u gwneud yn hyderus ynot ti. Diolchwn hefyd am y gwyddonwyr sy’n ceisio ffordd o oresgyn y dwymyn; ysbrydola hwy a rho iddynt weledigaeth.

Gwyddom, Arglwydd, y gelli di ddod â daioni allan o ddrwg; clyw ein gweddi ar ran y gymdeithas sydd ar chwâl oherwydd y dwymyn, ac hefyd ar ran ein byd. Tynn ddaioni allan o’r amgylchiadau hyn, fel bod gwledydd y byd yn agosáu at ei gilydd, a chyfeillachu fel bod unrhyw elyniaeth a all fodoli rhyngddynt yn y dyddiau hyn

 

Clyw ein gweddi, a rhagora ar ein deisyfiadau. Gofynnwn hyn oll yn enw yr Arglwydd Iesu Grist.

Guest User