15. Ysbïwyr Moses (Numeri 13-14.35)

Y Cefndir

Roedd yr Arglwydd yn arwain pobl Israel i Ganaan, lle na buont ers i Jwda a’i deulu fudo i’r Aifft yn nyddiau Joseff, rhai cannoedd o flynyddoedd yn gynt. Sut le fyddai Gwlad yr Addewid. Dim ond un ffordd oedd i wybod hynny, rhaid danfon ysbïwyr i’r wlad.  

Danfonodd Moses arweinydd pob un o’r deuddeg llwyth i wneud archwilad o’r wlad. Rhoddodd gyfarwyddyd manwl iddynt:

‘“Ewch i fyny trwy'r Negeb i’r mynydd-dir, ac edrychwch pa fath wlad yw hi: prun ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw’r bobl sy’n byw ynddi; prun ai da ynteu drwg yw’r tir lle maent yn byw; prun ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw ei dinasoedd; prun ai ffrwythlon ynteu llwm yw’r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin ydoedd.’ (Numeri 13.17-20)

Aethant, a buont yn archwilio’r wlad am ddeugain niwrnod cyn dychwelyd at Moses ac Aaron a phobl Israel. Roedd y deuddeg yn cytuno am ffrwythlondeb y tir, ond roedd deg yn negyddol am y posibilrwydd o gipio’r wlad. Meddent fod y bobl oedd yn byw yno yn gryfion, a bod y trefi’n gaerog ac yn fawr. Cyngor y deg oedd:

‘“Ni allwn  fynd i fyny yn erbyn y bobl oherwydd maent yn gryfach na ni.” Felly rhoesant adroddiad gwael i’r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo’ (Numeri 13.31-32).

Roedd Caleb a Josua, fodd bynnag, yn bositif:

“Y mae’r wlad yr aethom drwyddi i’w hysbïo yn wlad dda iawn. Os bydd yr Arglwydd yn fodlon arnom, fe’n harwain i mewn i’r wlad hon sy’n llifeirio o laeth a mêl. Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad os byddant yn ymladd yn ein herbyn. Y mae’r Arglwydd gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â’u hofni.” (Numeri 14.7-9)

Barn y deg enillodd y dydd, a dywedodd rhai y byddai’n well ganddynt ddychwelyd i’r Aifft na marw yn yr anialwch. Roeddent hyd yn oed yn sôn am ddewis arweinydd arall yn lle Moses er mwyn eu harwain yn ôl.

Tawelodd y cythrwbl pan ymddangosodd ysblander yr Arglwydd uwchben Pabell y Cyfarfod. Dywedodd Duw ei fod wedi clywed hen ddigon o gwynion y bobl, a gorfu i Moses eto yn eiriol ar  eu rhan. Canlyniad y drafodaeth â Duw oedd y byddai’n rhaid i’r genedl aros yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, tan y byddai cenhedlaeth y cwynwyr wedi darfod amdanynt. Dim ond Caleb a Josua a oroesodd a chyrraedd Gwlad yr Addewid.

Myfyrdod

Rhown bwyslais mawr ar farn y mwyafrif. Mae’n chwarae rhan mewn rhyw ffordd yn ein penderfyniadau. Y person â chanddo/ganddi fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill y sedd yn y Tŷ Cyffredin; y blaid â’r mwyafrif o seddau yno sy’n pendefynu pwy gaiff ffurfio llywodraeth. Yr un â’r bleidlais fwyaf gan y cyhoedd sy’n penderfynu pwy fydd yn ennill cystadleuaeth ddawnsio ar y teledu, neu dlws mabolgampwr gorau’r flwyddyn. A’r person a gaiff fwyaf o bleidleisiau sy’n cael yr alwad gan eglwysi. Pleidlais yr aelodau sy’n penderfynu beth fydd polisi eglwys - a phwy a gaiff eistedd yn y sêt fawr! Gwyddom, o brofiad, na wnaeth y mwyafrif  y penderfyniad gorau bob tro!

Yn hanes y sbïwyr, y deg a ddaeth â’r adroddiad negyddol am Canaan a gefnogwyd gan y mwyafrif o bobl Israel yn yr anialwch. Yr oeddent wedi anghofio gwirionedd mawr, sef mai’r Arglwydd Dduw oedd yn eu harwain. Yng ngeiriau John Knox, sefydlydd Eglwys Bresbyteraidd yr Alban (m.1572), ‘A man with God is always in the majority’. 

Tybed a yw’r eglwysi heddiw yn anghofio hyn a bod hynny’n gyfrifol am y negyddiaeth a’r digalondid a all arwain at ofn ynglŷn â beth a ddigwydd inni? Mae’r ofn yn waeth mewn cyfnod o hunan-ynysu. Sut fydd pobl yn teimlo am ymgynull ynghyd pan ddaw y cyfnod i ben? A fyddant yn gofidio dod at ei gilydd unwaith eto ac yn cadw draw - rhag ofn? Neu, efallai y byddant wedi cyfarwyddo â Sul di-gwrdd. Mae ofn yn beth negyddol iawn. Dywedodd Mark Twain, ‘Don’t walk away from negative people - run!’ Awgrym rhywun arall yw fod pobl negyddol fel y cymylau; pan ddiflanant mae’r haul yn tywynu, ac mae’n ddiwrnod hyfryd. ‘Os na allwch fod yn bositif, byddwch ddistaw!’

Mae stori am ŵr a fu mewn llongddrylliad ynghanol y Môr Tawel ond a lwyddodd i gyrraedd ynys ymhell o bobman. Gobeithiai weld llong yn mynd heibio, ond roeddent fel pe’n teithio y tu draw i’r gorwel. Aeth blynyddoed heibio. Pan aeth llong yn agos at yr ynys,  gwelodd y morwyr ddau adeilad. Wedi glanio, gwelsant y dyn oedd yno, a gofyn beth oedd y ddau adeilad? ‘Rwy’n byw yn hwn’, meddai, ‘a’r llall yw’r capel lle’r arferwn addoli!’ Tybed a fydd pobl yn dweud hynny pan fydd modd mynd allan eto, a hwy’n cerdded ar yr Ais? Mae gormod ar draws y wlad sydd wedi dechrau gwneud hynny yn barod! 

Ond mae rhywbeth arall y dylem sylwi arno yn stori’r sbïwyr. Golygodd negyddiaeth y mwyafrif fod yr Hebreaid wedi gorfod treulio deugain mlynedd yn yr anialwch, hyd nes bod cenhedlaeth newydd o bobl wedi codi yn eu plith (Numeri 14.26-35). Deugain mlynedd o grwydro’r anialwch oedd canlyniad y negyddiaeth. Ac er nad oeddent hwy eu hunain yn euog o unrhyw gamwri, ni chyrhaeddodd Miriam, Aaron na Moses Wlad yr Addewid chwaith - er i Moses gael ei gweld o bell (Deuteronomium 34.1-5). Yr unig ddau a gyrhaeddodd yno oedd y ddau ysbïwr positif, Caleb a Josua. Diolch am y genhedlaeth newydd sy’n arwain yn ein plith ni yn y Tabernacl yn yr oes ddigidol hon.

Gweddi

Arglwydd Dduw, cynorthwya ni i gofio fel y mae ein hagwedd ni at dy Eglwys yn gallu effeithio ar eraill - er da neu er drwg.  Ond
...llawn fo genau pawb o’th blant
o foliant a gorfoledd,
ac aed dy Ysbryd drwy bob bro
i rodio mewn anrhydedd,
a seria Gymru oeraidd, drist
yn Gymru danbaid Iesu Grist.  Amen (C. Ff., 605; Sion Aled)

 

Guest User