11. Moses ( Exodus 2-14.19 )

Y Cefndir

Nid oedd yn hawdd i’r Iddewon ddianc o afael yr Eifftiaid. Bu’n rhaid disgwyl am ymyrraeth Duw cyn i hynny ddigwydd; a Moses oedd yr un y galwodd yr Arglwydd arno i gyflawni’r gwaith.

Iddew oedd Moses, ond yn y cyfnod pan orchmynnwyd fod pob bachgen a anwyd i Iddew yn cael ei ladd, cuddiodd Miriam ei brawd bach mewn cawell wedi ei selio gyda thar, a’i rhoi ymhlith y brwyn ar lan yr afon. Gwelodd ferch Pharo’r gawell a dod o hyd i’r baban ynddo. Cymerodd hi’r plentyn a’i fabwysiadu, gan gael ei thwyllo gan Miriam i gyflogi ei fam i ofalu amdano.

Tyfodd y bachgen ym mhalas Pharo, ond cafodd ei fagu fel Iddew gan ei fam. Rhyw ddiwrnod lladdodd Moses Eifftiwr a welodd yn curo Hebrëwr. Clywodd Pharo am y digwyddiad, a ffôdd Moses i Midian. Yno cyfarfu a phriodi Seffora, merch Jethro, ac fe’i cyflogwyd gan ei dad-yng-nghyfraith fel bugail i’w ddefaid a geifr. Tra’n bugeilio’r praidd un diwrnod, fe welodd beth a dybiai oedd perth yn llosgi, ond heb gael ei difa. Nesaodd am olwg agosach a chlywodd lais yn ei alw wrth ei enw ac yn dweud wrtho am ddiosg ei sandalau, am fod y tir lle safai yn gysegredig.

Ni welai neb, ac nid oedd yn nabod y llais a ddywedodd wrtho mai Duw ei dadau - Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob - oedd yn siarad ag ef. Soniodd Duw am ei fwriad i ryddhau yr Hebreaid a’u cymryd i ‘wlad yn llifo o laeth a mêl’, ac mai Moses fyddai’n eu harwain. Ond un swil ac ansicr oedd Moses, ac nid oedd am dderbyn y cyfrifoldeb. Fodd bynnag, pan fynnodd Duw ei fod yn gwneud hynny, gofynnodd iddo ddatgelu ei enw, a’r ateb a gafodd oedd ‘Iafe’ (sef Yahweh: Ydwyf, neu Byddaf), hynny yw, ‘Fi yw’r Un’. Daeth yr enw mor gysegredig fel yr ofnai’r Iddew ei ddefnyddio ac fe’i galwodd yn ‘Iehofa’, gan newid y llefariaid yn yr enw. [‘ARGLWYDD’  - mewn priflythrennau - yw’r ffordd arferol o gyfieithu ‘Iafe’ yn y beiblau Cymraeg.]  Ni chollodd yr Iddew ei barch at yr enw, a phlygu ei ben a wna o hyd pan ddaw ar draws yr enw mewn darlleniad, a mynd heibio i’r gair.

Rhybuddiodd y llais y byddai’r dasg yn anodd ac roedd Moses am ymesgusodi gan ddweud ei fod yn ‘safndrwm a thafotrwm’ (Beibl 1620), ond ymatebodd Duw drwy ddweud wrtho y cawsai ei frawd, Aaron, fod yn ladmerydd iddo.

Myfyrdod

Fel yn hanes Moses, pan fo’r Arglwydd yn ein galw ni i ffydd, mae’n dod i gysylltiad personol â ni.

Mae’r Llythyr at yr Hebreaid yn dechrau drwy ddweud fod Duw’n cysylltu â phobl mewn llawer dull a llawer modd, ac mae stori galwad Moses yn sôn am y ffordd y daeth un person i’w nabod a’i wasanaethu. Weithiau mae’n hymwybyddiaeth o Dduw yn ein galw i fod yn aelod ‘cyffredin’ mewn eglwys, ond weithiau mae’n ein galw i waith arbennig, fel y gwnaeth yn hanes Moses. Ond mae bob amser yn alwad bersonol. Fesul un mae Duw yn galw, er y gall nifer ymateb i’r alwad ar yr un pryd - fel mewn ymgyrch efengylaidd.

Mae rhai yn clywed llais Duw mewn pregeth; eraill drwy ddarllen yr ysgrythur; eraill eto drwy brofedigaeth, neu drwy dystiolaeth rhywun arall, neu brofiad ysgytwol. Siaradodd Duw â Balaam drwy ei asyn (!) (Numeri 22:28-30). Ond mae rhai yn ‘tyfu’ i fewn i adnabyddiaeth o Dduw ac yn dod i’w  adnabod yn raddol, tra bod eraill a godwyd ar fronnau’r Ysgol Sul fel pe baent yn ei adnabod o’r crud.  Nid oes rhaid cael unrhyw brofiad ysgytwol cyn bod yr alwad yn un ddilys. Yr hyn sy’n bwysig inni ei gofio yw nad oes unrhyw un ffordd o ddod i’w adnabod yn rhagori ar y lleill. Mae pob un o’r ffyrdd y mae’r Arglwydd yn dewis i’n galw yn ddilys. Ymateb i alwad Duw a’i ddilyn sy’n bwysig, nid y llwybr a’n harweiniodd ato.

Mae Duw yn gallu galw’r anabl i’w wasanaethu. Ni fu anabledd Moses yn rhwystr iddo. Ac mae eraill o weision Duw yn y Beibl oedd yn dioddef o glefydau corfforol trafferthus. Roedd gan Paul yr hyn a alwodd yn ‘swmbwl yn y cnawd’ - sef rhyw drafferth meddygol. Er bod rhai o’r esbonwyr mwyaf ceidwadol yn credu mai am ryw wendid ysbrydol mae’n sôn, mae’n ymddangos ei fod yn golygu rhyw nam corfforol. Mae nodweddion ei afiechyd yn cyfateb i malaria, clefyd Malta (brucellosis), epilepsi, confylsiwn, neu glefyd y llygaid. Yr olaf yw’r mwyaf tebygol, pan gofiwn i Paul fynd yn ddall adeg ei droedigaeth. Dywedodd wrth y Galatiaid, ‘buasech wedi tynnu’ch llygaid allan a’u rhoi i mi, pe bai hynny’n bosibl’. (Galatiaid 4.15). Roedd ei lythyr at y Colosiaid i’w ddarllen hefyd i’r rhai yn ‘Laodicea’, dinas oedd yn enwog am ei eli llygaid (Colosiaid 4.13). Tybed a fu ef yno? Mae’n rhaid bod Cristnogion yno cyn y byddai yn eu cyfarch. Mae Paul yn llofnodi’r llythyrau, a ysgrifennwyd ar ei ran gan amanuensis, mewn llythrennau bras (Galatiaid 6.11; 1 Corinthians 16.21). Dyna fu’n rhaid i Mam wneud ar ddiwedd ei hoes pan ddioddefai o ddirywiad macro (macro degeneration) yn ei llygaid. Ysgrifennai’r rhifau teliffôn pwysig ar garden gerllaw’r ffôn mewn llythrennau bras. Gofynnodd Paul am iachâd; yr ateb a gafodd oedd, ‘Digon i ti gy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i’w anterth’ (2 Corinthiaid 12.9). Gall yr Arglwydd ddefnyddio unrhyw un y mynn, gan gynnwys yr anabl.

Merch fach anabl iawn yn gwirfoddoli i helpu mewn ymgyrch wleidyddol adeg etholiad. Rhywun yn gofyn iddi hi, ‘Beth elli di wneud?’ ‘Wel, gallwn lyfu’r stampiau!’ meddai hi.

Yn aml mae’r rhai a elwir gan Dduw yn ceisio osgoi yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud, fel y gwnaeth Moses; ond nid yw’r Arglwydd yn rhoi gorau i’w galw!  Gallwn ymateb i alwad Duw yn llugoer neu’n negyddol. Os ystyriwn ei bod yn bwysig, fe’i derbyniwn; os na, fe ddown o hyd i ryw esgus i’w gwrthod! Twyllwn ein hunain ag esgus, ac wedyn ni fydd neb yn gallu’n beirniadu ni am beth a ddigwydd.

Gweddi

O Arglwydd, galw eto
fyrddiynau ar dy ôl,
a dryllia’r holl gadwynau
sy’n dal eneidiau’n ôl ...  (C.Ff.  249; Dafydd Jones, 1711-77) 

O Dduw, rho inni glustiau sy’n clywed y llef ddistaw, fain; calon fydd yn cynhesu o gariad tuag atat, a dwylo fydd yn ymroi i weithio’n frwdfrydig ar dy ran.  Amen

Guest User