Gweddi o ganol arswyd  gan y Tad Richard Henrick

Gweddi o ganol arswyd   gan y Tad Richard Henrick

(Cyfieithiwyd y weddi gan DIJ. Mae’r Brawd Richard yn offeiriad Fransiscaidd yn yr Iwerddon.  

Bydd ymweld â YouTube  yn cynnig cyfweliad rhyngddo â Brooke Taylor. Gwerthfawr.) 

 

Oes, mae ‘na ofn.

Oes mae ‘na ynysu.

Oes mae ‘na brynu gorffwyll,

Oes mae ‘na salwch.

Oes mae ‘na hyd yn oed farwolaeth.

Ond, dywedir eu bod yn Wuhan, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o sŵn

yn  medru clywed yr adar eto.

Dywedir ar ôl ond ychydig wythnosau o lonyddwch,

nad yw’r awyr yn llawn o fwg trwchus,

ond yn llwydlas glir.

Dywedir bod yn strydoedd Assisi

bobl yn canu i’w gilydd

ar draws sgwariau gwag

yn cadw eu ffenestri ar agor

fel bod y sawl sydd yn unig

yn medru clywed y teuluoedd o’u cwmpas.

Dywedir bod gwesty yng Ngorllewin Iwerddon

yn cynnig prydau am ddim 

a’u cludo i gartrefi’r sawl sy’n gaeth i’w tai. 

Heddiw mae gwraig ifanc rwy’n ei hadnabod

Yn brysur yn dosbarthu taflen fechan gyda’i rhif ffôn

ar draws ei chymdogaeth,

fel bod yr oedrannus yn medru galw ar rhywun.

Heddiw mae Eglwysi, Synagogau, Mosgiau a Themlau

yn paratoi i groesawu

a chysgodi’r digartref, y claf a’r blinedig;

Ar draws y byd mae pobl yn arafu ac yn myfyrio,

ar draws y byd bydd pobl yn edrych ar eu cymdogion mewn ffyrdd newydd,

ar draws y byd mae pobl yn deffro i realiti newydd,

at ba mor fawr ydym mewn gwirionedd,

at ba mor wan ydym o ddifrif,

at ddiffyg rheolaeth sydd genym

i’r hyn sydd wir o ddifrif

y modd i garu.

 

Felly cofiwn a gweddiwn,

oes mae yna ofn,  ond nid oes rhaid meithrin casineb,

oes mae yna ynysu, ond nid oes rhaid i ni ganiatau unigrwydd.

oes mae yna brynu gorffwyll, ond nid oes rhaid cael cybydd-dod,

oes, mae yna salwch, ond nid oes rhaid cael clefyd ysbrydol

oes mae yna farwolaeth, ond gellir o hyd gael adnewyddiad o gariad.

Deffrowch i’r dewis sydd gennych o sut mae byw.

Heddiw, anadlwch,

gwrandewch tu hwnt i grochlefain y panig

ar yr adar yn canu eto.

Mae’r awyr yn clirio,

y gwanwyn yn dod

a byddwn o hyd yn cael ein cwmpasu gan gariad.

Agorwch ffenestri eich enaid 

ac er na fyddwch yn medru cyffwrdd ar draws y sgwar gwag

Canwch.

Gwthiwn tu hwnt i ofn a darganfod gobaith eto.                                                                    

Guest User