Cynhelir yr Ysgol Sul Y TABERNACL yn ystod yr oedfa foreol ac eithrio’r Sul cyntaf y mis, pryd mae gwasanaeth deuluol o dan arweiniad y plant a’r bobl ifanc.
Mae dau ddosbarth: un ar gyfer y babanod ac un i ddisgyblion iau.
Mae'r plant yn mwynhau darllen storïau'r Beibl a chwblhau gweithgareddau hwyliog.
Ar hyn o bryd rydym yn noddi addysg plentyn yn Lesotho ac mae gan y plant ddigon o syniadau cyffrous sut i godi arian ar gyfer hyn.