Gweddi gan y Gweinidog

Gweddïwn

Ymdawelwn ger dy fron, O Arglwydd ein Duw, er ein bod yn rhannu’r weddi hon ar wahan i’n gilydd, ac efallai ar amser gwahanol.  Rydym yn cyfarfod yn enw Iesu, yr hwn sydd yn fan cyfarfod pobl o bob llwyth, gwlad ac iaith, yn byw mewn gwledydd ar draws y byd.   Fel aelodau  a chyfeillion o eglwys y Tabernacl, gweddïwn y weddi sy’n dy gydanabod fel ffynhonnell pob gobaith, yn Ysbryd y goleuni, ac yn Arglwydd i bob un ohonom,  gweddïwn dros ein gilydd a thros eraill. 

Yn yr amser rhyfedd hwn, lle byddwn yn cadw arwahan i’n gilydd, dymunwn fod yn un ynot ti, ac yn effro i ofynion ac i ofnau pobl eraill.  Bydd y newyddion am y modd mae COVID 19 yn dal i ledaenu yn frawychus i ni, a’r niferoedd sydd mewn ysbytai yn arswyd.  Gweddïwn gyda’r teuluoedd sydd yn galaru am anwyliaid, a’r staff yn y byd meddygol led-led daear, ac yn arbennig ein cyfeillion a’n cydnabod, sy’n gweithio ar flaen y gâd fel nyrsys a meddygon. Bendithia hwy.

Diolch am bob ymdrech i ddarganfod brechlyn a meddyginiaeth effeithiol a pherthnasol i herio’r afiechyd hwn. Cofiwn am y sawl sy’n bwrw iddi i ddarparu dillad ar gyfer y staff meddygol, y cleifion a’r cymunedau yn gyffredinol.   Roedd clywed am lwyddiant cynllun Rhys Thomas o Sir Gaerfyrddin yn codi calon, a bod llawer o ymchwil yn digwydd mewn cymaint o wledydd.  Syweddolwn fod nifer o bobl a gafodd eu siomi am fod y llawdriniaethau, roeddent wedi edrych ymlaen atynt, wedi eu gadael ar y rhestr aros, ac yn arbennig y sawl a oedd i wynebu triniaethau at glefydau fel cancr.  

Pryderwn Arglwydd bod rhai yn dal i ddi-ystyru difrifoldeb ein sefyllfa, ac yn siarad yn ysgafn am y feirws hwn. Cofiwn yn arbennig am drigolion gwledydd ar gyfandir yr Affrig, ac yn benodol meddyliwn am wledydd tlawd fel Lesotho.  Maent wedi wynebu heriau creulon yn eu tlodi ac heb yr adnoddau i wynebu’r salwch diweddaraf hwn. 

Gweddïwn am nerth yn ôl y dydd, gan ddiolch am bob arwydd o gefnogaeth ar draws pob cymdeithas.  Boed i bob cenedl cyd-dynnu gyda’i gilydd.  Deisyfwn y byddant yn ymateb yn gadarnhaol i alwad Ysgrifennydd Cyffredin ôl y Cenhedloedd Unedig am ymatal pob rhyfela, ac i bawb ganolbwyntio at y frwydr sy’n gyffredin i bawb.  Wrth i ni gofio am Meinir a Ffred Francis ym Mheru, meddyliwn am bawb sydd mewn gwledydd tramor, ac yn methu dychwelyd adref. 

Gweddïwn y bydd yr argyfwng hwn yn dod a llawer i’w coed, ac na fydd y fath flys at bethau materol a mwy o ymwybyddiaeth o’r gofyn ysbrydol sydd arnom.  Gwyddom bod dynoliaeth wareiddiedig ac amgylchedd di-wenwyn yn sylfaenol bwysig i ddiogelwch holl drigolion byd.

Clyw ein llef a maddau’n bai wrth i ni ofyn hyn yn enw Iesu, yr hwn a ddysgodd ei ddisgyblion i weddïo  drwy ddweud -

Ein Tad, yr Hwn wyt yn y nefoedd
sancteiddier Dy enw, deled Dy deyrnas, gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol 
a maddau inni ein troseddau,
fel yr ŷm ni wedi maddau i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn
a phaid a’n dwyn i brawf
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas a’r gallu a’r gogoniant am byth  Amen.

Guest User